“Y bobl a rodiasant mewn tywyllwch, a welsant oleuni mawr” (Eseia 9:2)

Arglwydd ein Duw,
clodforwn di yr Adfent hwn ar drothwy gŵyl y Nadolig,
am dy ddyfod i’n byd yn Iesu Grist,
i oleuo ein tywyllwch â’i gariad,
a’n galw i gyfiawnder a heddwch.
Mawrygwn dy enw am ddod atom mewn ffordd mor gyffredin,
drwy enedigaeth baban,
oesoedd pell yn ôl.

Rhyfeddwn, Arglwydd, at yr hanes:
at ufudd-dod Mair,
a’i pharodrwydd i dderbyn y llwybr a ddewisaist iddi,
i fod yn fam i Waredwr y byd.
Gweddïwn y bydd ei hesiampl, y Nadolig hwn,
yn her i ninnau
i roi dy ofynnion di a’th deyrnas yn gyntaf,
ac i ymateb iti gyda ffydd a gostyngeiddrwydd.
Maddau ein diffyg ymroddiad
a’n tuedd i anwybyddu dy alwadau,
a boed i ni gael yr hyder i adleisio geiriau Mair;
“Dyma lawforwyn yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di”. 

Diolchwn am bawb heddiw
y mae eu ffyddlondeb yn her ac yn anogaeth inni.
Diolchwn hefyd am bawb sy’n cefnogi ac yn cynnal,
yn rhannu ac yn annog er mwyn i eraill allu gweithredu.
Cofiwn mai gyda’n gilydd y sylweddolwn dy bwrpas,
a bod pob cyfraniad yn werthfawr yn dy olwg di.
Dyro inni’r ffydd i bwyso arnat ti ac i ymddiried yn ein gilydd,
a gad i ni yn nhymor y Nadolig
gyhoeddi’r newyddion da o lawenydd mawr:
‘Canys ganwyd i chwi heddiw Geidwad yn ninas Dafydd, yr hwn yw Crist yr Arglwydd.’ 

Gweddïwn dros bawb sy’n drist a digalon ar drothwy Gŵyl y Geni,
sy’n dyheu am y goleuni a chwalo bob tywyllwch.
Boed i ti, Arglwydd, eu nerthu a’u cysuro,
a bydd gyda phawb sy’n wael a llesg,
y rhai sy’n hiraethu am annwyliaid a gollwyd,
ac yn wynebu’r ŵyl heb eu cysur a’u cwmni. 

Tyred atom, a gwrando ein gweddi,
yn enw ac yn haeddiant Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.