CORSEN YSIG?
Rydyn ni’n byw mewn cyfnod rhyfedd pan mae tynged llywodraeth yn dibynnu ar pryd mae parti ddim yn barti ond yn gyfarfod gwaith!
Pan all sofraniaeth cenedl ddibynnu a yw arweinydd pwerus yn teimlo dan fygythiad ai peidio gan sancsiynau posibl ar ei fri a’i bŵer os yw’n ceisio cymryd rheolaeth o wlad arall!
Pan fydd yr addewidion a wnaed i wlad, i’w darparu nhw gyda dyfodol democrataidd, yn diweddu fyny gyda newyn posibl i filiynau o’i phobl pan syrthiodd pethau i ddarnau!
Mae’r digwyddiadau rhyfeddol hyn yn dod i fod y normal newydd. A dyna cyn i ni ddechrau ceisio asesu effeithiau hirdymor y pandemig neu newid hinsawdd.
Disgrifiodd rhywun rhywdro y genhedlaeth bresennol hon fel un sy’n gwybod popeth am ei hawliau ond sydd wedi anghofio bod dyletswyddau a chyfrifoldebau yn gysylltiedig â’r rhain. A ydym yn methu â deall yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd ac sy’n mynd ymlaen?
Roeddwn yn newynog, a gwnaethost di ffurfio clwb dyniaethau a thrafod fy newyn.
Cefais fy ngharchari, ac fe ymlusgaist i ffwrdd yn dawel i’th gapel
yn y seler a gweddïo am fy rhyddhad.
Yr oeddwn yn noeth, ac yn dy feddwl yr oeddet yn dadlau moesoldeb fy ngwedd.
Roeddwn i’n glaf, ac fe wnaethost di benlinio a diolch i Dduw am dy iechyd.
Roeddwn i’n ddigartref, ac fe wnaethost di bregethu i mi lloches ysbrydol cariad Duw.
Roeddwn i’n unig, ac fe adawaist lonydd i mi weddïo drosof fy hun.
Rwyt ti’n ymddangos mor sanctaidd, mor agos at Dduw,
ond dwi dal yn newynog iawn, yn unig, ac yn oer.
Wrth galon ein ffydd mae geiriau proffwydol a gweledigaethol Eseia:
“Dyma fy ngwas, yr wyf yn ei gynnal,
f’etholedig, yr wyf yn ymhyfrydu ynddo.
Rhoddais fy ysbryd ynddo, i gyhoeddi barn i’r cenhedloedd.
2 Ni fydd yn gweiddi nac yn codi ei lais, na pheri ei glywed yn yr heol.
3 Ni fydd yn dryllio corsen ysig, nac yn diffodd llin yn mygu;
bydd yn cyhoeddi barn gywir.
4 Ni fydd yn diffodd, ac ni chaiff ei ddryllio, nes iddo osod barn ar y ddaear;
y mae’r ynysoedd yn disgwyl am ei gyfraith. (Eseia 42:1-4 BCN)
Gweddi
O Dad helpa ni i weld y byd a’n rhan ni ynddo o’th safbwynt di.
Galluoga ni i sylweddoli bod yn rhaid i ni gydnabod y manylion er mwyn amgyffred y darlun ehangach.
Atgoffa ni sut y dangosodd dy fab y gwas hwnnw i’r byd, cariad aberthol yw’r unig ffordd bendant i ddelio â drygioni a rhoi’r gras inni ddysgu o’i esiampl. AMEN