Gweddïau ar gyfer y rhai sy’n byw gyda dementia – ac i ni i gyd.
Salmau 46:10
Dad, helpa y rhai sy’n byw gyda dementia. Arglwydd gallant wynebu llawer o ansicrwydd a heriau. Helpa nhw i aros yn eu hunfan a gwybod mai Ti yw Duw. Nid yw dementia yn tynnu ein hunaniaeth ynot Ti, oherwydd Ti yw’r Bugail Da, ni yw Dy ddefaid A’th blant. Diolch i ti am dy drugareddau tyner tuag atom ni i gyd. Amen
Eseia 26: 3
Annwyl Arglwydd, Dywed dy Air y Byddi’n rhoi Dy heddwch perffaith i’r rhai sy’n ymddiried ynot ac yn canolbwyntio eu meddwl arnat Ti. Ar adegau mae’n anodd cerdded llwybr dementia ond rydyn ni’n diolch i Ti am fod yn heddwch tragwyddol. Gweddïwn Dy fod bob amser yng nghanol ein meddwl, oherwydd pan mae gennym Ti mae gennym bopeth. Dy heddwch dwyfol yw’r hyn sy’n rhagori ar bob dealltwriaeth. Amen.
Galatiaid 6: 9
Dad Nefol, helpa ni i lawenhau ynot ti bob amser. Helpa ni i beidio â blino ar wneud daioni ond i gofio dy fod di wedi paratoi gweithiau da i ni eu gwneud. Gweddïwn dros y rhai sydd angen cryfder heddiw i ofalu am rywun sydd â dementia. Amen.
Diarhebion 17:22
Arglwydd gariadus, rydyn ni’n diolch i Ti oherwydd rwyt Ti’n dda ac mae dy drugareddau yn para am byth. Arglwydd, Ti yw ein Tad Da, ein Goleuni yn y tywyllwch; daw popeth da gennyt Ti! Y llawenydd a roddaist inni yw’r feddyginiaeth i’n calonnau. Arglwydd gweddïwn y bydd gan bawb sy’n byw gyda dementia nerth i chwilio am resymau i fod yn llawen heddiw. Amen.
Salmau 61:2
Hollalluog Dduw, o bennau’r ddaear byddaf yn gweiddi allan amdanat. Pan fydd fy nghalon wedi fy llethu, arwain fi at y graig sy’n uwch na mi. Rwyt yn gwybod fy ofnau, fy mhryderon, fy rhwystredigaethau, fy euogrwydd. Ni allaf wynebu’r dementia hwn hebot ti. Waredwr, helpa fi i guddio ynot ti, i adnabod dy bresenoldeb a’th ras. Ti yw’r graig sy’n uwch na minnau, Amen.
1 Pedr 5: 7
Dduw tragwyddol, rydyn ni’n bwrw ein holl ofalon arnat Ti oherwydd rwyt Ti’n gofalu amdanon ni. Ni fyddi’n gadael inni wynebu dementia ar ein pen ein hun, oherwydd rwyt Ti bob amser gyda ni. Dad, mae’r siwrnai hon yn aml yn straen ac rydym yn wynebu galar wrth inni ‘golli’ ein hanwylyd. Helpa ni i gofio, er efallai nad yw pobl eraill yn deall, rwyt Ti yn. Rwyt ti’n gweld ein calon a’n meddwl yn gliriach nag unrhyw un arall neu unrhyw feddyg. Ti yw ein ffrind gorau a’r meddyg mwyaf, rydyn ni’n Dy garu Di Arglwydd, Amen.
Rhufeiniaid 12:5
Gweddïwn y bydd yr eglwys yn effro i’w chyfrifoldebau i ofalu am y rhai sy’n byw gyda dementia. I geisio cynnig cefnogaeth ymarferol i ofalwyr yn ogystal â chefnogaeth ysbrydol ystyrlon. I fod yn wneuthurwyr Dy Air ac nid yn wrandawyr yn unig – fel bod pob aelod yn cael ei werthfawrogi, ei gefnogi a’i anrhydeddu.