Diwrnod sbesial.
Mae’n dymor y gwyliau, ac yn dilyn cyfnod o fethu mynd ymhell i ffwrdd, ac yn sicr dramor, mae’na brysurdeb i’w weld, a phobl yn mynd ar wyliau, ymhell ac agos.
Tybed ymhle yr oeddech chwi ar 24 Mehefin 1995? Roedd Miriam a minnau mewn gwesty yn Aqaba, y tymheredd tu allan yn 44C. Ar y diwrnod hwnnw roedd ffeinal Cwpan Rygbi’r Byd yn cael ei chynnal yn Johannesburg. Ond nid dyna pam yr aethom i Iorddonen. Fel paratoad ar gyfer arwain pererinion o Gymru i Israel a’r Iorddonen yn 1996 cawsom ein tywys o Aman i Aqaba mewn tacsi moethus, yn cael ei yrru gan frawd o’r enw Mohammed. Diwedd y daith oedd Aqaba.
Yn ystod y dyddiau ar y ffordd cawsom ambell i sgws ddiddorol gyda Mohammed. Un gyda’r nos gofynnais iddo sawl diwrnod o wyliau (holidays) a gai mewn blwyddyn. Ei ateb oedd 52. Roedd amcangyfrif ei fod yn cael dros saith wythnos o wyliau yn syndod i mi. Yna eglurodd ei fod yn cael un diwrnod gŵyl bob wythnos; dydd Gwener oedd ei ddiwrnod gŵyl, neu ‘holy day’, sydd wrth gwrs yn rhoi’r gair Saesneg ‘holiday’.
Onid ydym ninnau yn cael 52 niwrnod o wyliau bob blwyddyn? Dyna yw’r Sul onide? Diwrnod i orffwys oddi wrth ofynion dyddiol.
Yn ogystal a chael seibiant o wythnos neu ddwy yn ystod yr haf, mwynhewch y 52 diwrnod arall o wyliau a gewch eleni.
Darllen Ecsodus 20adn 8-11.
Gweddi.
Trown atat ti, O Arglwydd ein Duw, yr hwn a greodd pob peth mewn chwe niwrnod ac a orffwysodd ar y seithfed dydd. Yr wyt yn galw arnom ninnau i gadw un diwrnod yn sbesial, ac ers i Iesu atgyfodi o’r bedd mae dy bobl wedi cadw dydd cyntaf yr wythnos fel y diwrnod sbesial hwnnw. Yn dy ddoethineb rwyt yn galw arnom i orffwyso, fel y gwnes dithau ar y dechrau. Cynorthwya ni i gyfrif ein bendithion un ac un, a rhoi’r clod a’r mawl i ti. Diolch Arglwydd. Amen