Ail-adeiladu

Dydd Iau 22ain Gorffennaf gwahoddwyd cynrychiolwyr adrannau ein henwad  i Ddiwrnod Ymgynghoriad yn Nhrefeca (neu ar Zoom). Gofynnwyd i ni rannu syniadau a doethineb ar sut all Trefeca wasanaethu ein heglwysi a’n cymunedau yn y dyfodol. Agorwyd yr Ymgynghoriad gan Y Parch Trefor Lewis, Cadeirydd Adran Trefeca, gyda’r geiriau canlynol o Eseia 43 ad 18-19.

“Peidiwch hel atgofion am y gorffennol, a dim ond meddwl am beth ddigwyddodd o’r blaen! Edrychwch, dwi’n gwneud rhywbeth newydd.”

Mae gennym etifeddiaeth fawr yn Nhrefeca, a dylid ei rhannu, ond rhybuddir ni gan Eseia rhag colli y “rhywbeth newydd” y mae Duw’n ein galw iddo heddiw. Y mae angen gweithgaredd, gweledigaeth a gweddïau yr eglwys gyfan i gyflawni hynny. Un o’r safleoedd ‘rhaid eu gweld’ yn Barcelona yw Sagrada Familia, yr eglwys fawreddog gynlluniwyd gan Antoni Gaudy dros ganrif yn ôl, ond heb ei gorffen, gyda cherfluniau o fywyd Crist ar y muriau allanol. Cyflogodd Gaudy y cynllunydd holl grefftwyr lleol, yn seiri maen a choed ayyb. Yn union fel Nehemeia yn dibynnu ar ‘deuluoedd’ pobl Dduw i ail adeiladu gwanhanol rannau o furiau Jerwsalem,

Felly, yn ein gweddi ar gyfer Trefeca heddiw gofynnwn i Dduw ddangos i ni, beth y mae ef am i ni ei wneud, fel unigolion, neu eglwysi, neu aelodau o bwyllgorau’r enwad.

Gweddi.

Duw, yr hwn sydd yr un ddoe, heddiw ac yfory. Rhown ddiolch i ti am orffennol Trefeca, molwn dy enw am yr hyn sydd yn digwydd yno heddiw. Trown atat i geisio dy arweiniad wrth i ni adeiladu ar gyfer y dyfodol. Maddau i ni am dy adael di allan o’n cynllunio, gan ofyn i ti fendithio’r gwaith pan fydd y cynllunio wedi gorffen.  Yr wyt yn ein galw i ddilyn dy arweiniad – dyro i ni y parodrwydd i wneud hynny. Agor ein llygaid, ein clustiau a’n meddyliau, i weld, clywed a deall yr hyn yw dy gynlluniau di ar gyfer Trefeca fel y dyrchafer dy enw di. Gofynnwn hyn yn enw Iesu Grist, y prof adeiladydd. Amen.