Mae hyfforddiant diogelu yn hanfodol i bawb sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant, ieuenctid ac oedolion bregus a hefyd y rhai sy’n gyfrifol am y gwaith e.e. ymddiriedolwyr a blaenoriaid. Mae’r Panel Diogelu Cydenwadol yn hwyluso hyfforddiant diogelu ar gyfer yr Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Mae’r hyfforddiant yn seiliedig ar ein polisïau diogelu a’i nod yw helpu gweithwyr a gwirfoddolwyr i fod yn gyfarwydd â’r canllawiau cyfredol a gwybod beth i’w wneud os oes ganddynt bryderon am unigolyn neu sefyllfa. Ewch i Hyfforddiant (panel.cymru) am fwy o wybodaeth.
I weld yr holl sesiynau sydd ar gael ar hyn o bryd ac i archebu eich lle am ddim dilynwch y ddolen i TicketSource (y ddolen uchod) neu cysylltwch â Swyddfa’r Panel os hoffech drefnu sesiwn.
Mae’r Panel yn cynnig tri math wahanol o hyfforddiant diogelu:
HYFFORDDIANT LEFEL 1 ar gyfer gwirfoddolwyr (2 awr)
HYFFORDDIANT LEFEL 2 ar gyfer gweinidogion, arweinwyr a gweithwyr (6awr) HYFFORDDIANT CYDLYNYDD DIOGELU LLEOL ar gyfer rhai sy’n cyfrifol am faterion diogelu yn yr eglwys lleol. https://panel.cymru/cy/hyfforddiant
Argymhellir bod pob gweithiwr a gwirfoddolwr yn cwblhau sesiwn e-ddysgu diogelu Grŵp A Gofal Cymdeithasol Cymru