Mae chwe pecyn hyfforddiant parod ar gael gan EBC. Gall y cyd-lynydd hyfforddiant eich helpu i gyflwyno’r deunydd mewn sesiynau hyfforddiant, neu gallwch ddefnyddio’r deunydd eich hunain o fewn eich hardal. Dyma fraslun o gynnwys y chwe pecyn:
Archwilio’r FfyddMae’r cwrs academaidd yma yn addas ar gyfer pregethwyr lleyg, neu aelodau sy am gychwyn astudio yr Ysgrythur yn fwy academaidd. Defnyddir y deunydd gyda grŵp o bobl, gan gyfarfod unwaith neu ddwy bob mis. Bydd yn cymryd tua 2 flynedd i gwblhau’r cwrs cyfan, gyda gofyn cyflwyno gwaith ysgrifenedig. |
Cwrs Hyfforddiant i Flaenoriaid ar gyfer Gweinyddu’r SacramentauCliciwch ar y pennawd uchod i weld copi o lawlyfr y cwrs. Mae’r rhaglen yn addas i’w ddefnyddio gyda grŵp o flaenoriaid, a bydd yn cymryd tua 4 mis gan gyfarfod unwaith neu ddwy bob mis. Bydd y cydlynydd hyfforddiant yn trefnu hyfforddwr yn eich hardal. |
Y Blaenoriaid a’u GwaithCliciwch ar y penawd uchod i weld copi o lawlyfr y cwrs. Cwrs hyfforddi a llawlyfr. Cyhoeddwyd 1998, adolygwyd 2014. Yn cynnwys pennodau ar: Beth yw Blaenor? Gall gweinidog ddefnyddio hwn yn sail gwaith grŵp efo’i b/flaenoriaid, neu gall y Cyd-lynydd Hyfforddiant drefnu person allanol i gynnal y cwrs yn yr henaduriaeth. |
‘Ewch yn Ei Enw Ef’Cliciwch ar y penawd uchod i weld copi o lawlyfr y cwrs. Adnodd hyfforddiant ar gyfer blaenoriaid a thimoedd ymweld, 2012. Cynnwys: Mae’r adnodd yn cynnwys DVD a llyfryn gwaith. |
Arwain AddoliadCliciwch ar y penawd uchod i weld copi o lawlyfr y cwrs. Cyhoeddwyd 2010 Mae’n cynnwys chwe sesiwn, sef: Gall un person ddefnyddio hwn yn sail gwaith grŵp efo’i ch/gyd-aelodau yn yr eglwys, neu gall y Cyd-lynydd Hyfforddiant drefnu person allanol i gynnal y cwrs yn yr ardal. Gellir hefyd gyflwyno sesiynau ar rannau o’r cwrs yn unig.
|
Rôl Trysorydd y CapelCynhyrchwyd 2017 Cyflwyniad 2-3 awr, yn cynnwys power points gyda rhai gweithgareddau, ac astudiaethau achos. • Y man cychwyn Gall y Cyd-lynydd Hyfforddiant drefnu person addas i gyflwyno’r sesiwn yma yn eich henaduriaeth neu ardal. Mae copi ysgrifenedig o’r cynnwys ar gael os ydych yn drysorydd newydd ac eisio canllaw ar gyfer y gwaith. Mae adnoddau y cwrs ar gael yma: Hyfforddiant Trysoryddion (PDF) a Cyflwyniad Trysoryddion y Capel (PDF) – cysylltwch a’r cyd-lynydd hyfforddiant am fersiwn PowerPoint |