Profiad Gwaith

Efallai eich bod yn awyddus i gael profiad o waith Cristnogol, neu efallai eich bod ar gyfnod o newid yn eich bywyd, ac efo cyfle i wneud rywbeth gwahanol. Mae EBC yn gallu cynnig llefydd ar wahanol gynlluniau.

Y Rhaglen Genhadol

Blwyddyn Gap – Rhaglen Blwyddyn Gap y Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid yng Ngholeg y Bala

Cyfle i fyw a gweithio ochr-yn-ochr a staff y Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid a Choleg y Bala am flwyddyn. Byddwch yn cael cyfle I ddatblygu sgiliau I’ch galluogi I weithio efo plant a bobl ifanc o fewn yr eglwys. Byddwch yn cymryd rhan lawn yn holl weithgarwch amrywiol y Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid yn y Coleg, yn derbyn peth hyfforddiant ffurfiol, ac yn cael eich mentora a’ch cefnogi gan staff y Coleg.

Amcanion y FLWYDDYN GAP yw:

  • annog datblygiad personol ac ysbrydol
  • ymdrechu tuag at fod â chymeriad cynyddol Grist-debyg
  • cynorthwyo pob myfyriwr i adnabod ei ddoniau a’i botensial
  • datblygu sgiliau arwain, cyfathrebu ac adeiladu tîm effeithiol
  • cynorthwyo a galluogi pob myfyriwr i ddirnad sut gyfraniad y gall ei wneud i’r Eglwys.

Beth fydda i’n wneud?

Mae myfyrwyr yn cael cyfleon i brofi a bod yn rhan o’r gwahanol weithgareddau sy’n ymwneud â gwaith y Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid yng Ngholeg y Bala. Mae hyn yn cynnwys:

  • paratoi a chyflwyno Cristnogaeth i blant ac ieuenctid mewn ffordd berthnasol a chyfoes ar gyrsiau penwythnos, haf a chanol-wythnos
  • mynychu cyfarfodydd tîm: cymryd rhan yng ngwasanaeth dyddiol y ganolfan ac arwain yn achlysurol
  • cynorthwyo gyda gwaith gweinyddol y ganolfan fel bo’r angen.

Mae cyfleon i’r myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau plant ac ieuenctid tu allan i Goleg y Bala hefyd; rhai sy’n cael eu cynnal gan rai o weithwyr eraill Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Mae hyn yn cynnwys paratoi a chymryd rhan yn y gweithgareddau canlynol:

  • clybiau plant ac ieuenctid
  • grwpiau rhanbarthol Souled Out
  • gwasanaethau mewn ysgolion
  • cenhadaeth leol
  • ysgolion Sul
  • gwasanaethau boreol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd
  • undebau Cristnogol

Caiff y myfyriwr gyfarfodydd rheolaidd gydag aelod parhaol o’r staff er mwyn archwilio’r dyddiadur a threfnu rhaglen waith addas.

Ydw i’n derbyn tâl?

Cynllun gwirfoddoli yw’r Cynllun Blwyddyn Gap, ond byddwch yn derbyn bwyd a llety, a lwfans wythnosol.

Pwy sy’n gallu ymgeisio?

Mae’r flwyddyn yn ddelfrydol ar gyfer rhai sy’n gadael ysgol neu brifysgol, ac  sydd am gymryd amser i ystyried eu cynlluniau i’r dyfodol.  Mae hefyd yn addas ar gyfer unigolion fyddai’n elwa o doriad yn eu gyrfa i’r un diben.  Mae’r flwyddyn yn ei hanfod yn addas ar gyfer unigolion sydd am ddyfnhau a datblygu eu heffeithiolrwydd mewn gwasanaeth Cristnogol.

Does dim cyfyngiad oed, ond rhoddir blaenoriaeth I rai dan 25ain oed. Mae’r gallu I siarad Cymraeg yn ddymunol iawn.

Diddordeb?

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn fyfyriwr BLWYDDYN GAP, cysylltwch â Rheolwyr Coleg y Bala, Sian neu Owain Edwards 01678 520565/ colegybala@ebcpcw.cymru am sgwrs. Yna lawrlwythwch y ffurflen gais o wefan y Coleg.

Sut a phryd mae ymgeisio?

Derbynnir ceisiadau drwy gydol y flwyddyn, ond ystyrir ceisiadau yn y gwanwyn ar gyfer yr hydref canlynol. Fel arfer bydd y myfyriwr yn cychwyn y flwyddyn gap ar ôl yr haf.