Wyt ti wedi YSTYRIED MYND YN WEINIDOG?
Mae EBC am annog dynion a merched fel chi – rhai â’r ymroddiad a’r doniau addas – i ystyried a yw Duw yn eich galw i ddod yn arweinydd yn ei eglwys.
Beth ydi’r weinidogaeth?
Drwy ordeinio, mae gweinidog wedi ei neilltuo gan yr Eglwys fel arweinydd, i bregethu’r Gair, gweinyddu’r Sacramentau, bugeilio’r aelodau a’u hyfforddi yn y Ffydd Gristnogol ac arwain yr Eglwys yn ei gwaith cenhadol a dyngarol.
Pwy sy’n addas i’r weinidogaeth?
Mae Duw yn galw dynion a merched, bobl ifanc a phobl hŷn, brofiadol i’r weinidogaeth. Mae pob un efo gwahanol ddoniau i gynnig i’r rôl. Bydd rhai yn mynd yn weinidog llawn amser, eraill yn rhan amser, neu yn weinidog gwirfoddol.
Beth yw fy ngalwad i?
Mae pob un ohonom wedi ein galw gan Dduw i weithio dros ei Deyrnas. I’r rhan fwyaf ohonom bydd hyn yn golygu bod yn weithgar yn ein heglwys leol. Ond caiff rhai eu galw’n arweinwyr yn yr eglwys, a gall hyn olygu cael eich ordeinio i’r weinidogaeth.
Ble i gychwyn?
Efallai dy fod yn teimlo bod Duw yn dy alw i ystyried y weinidogaeth. Mae sawl peth gelli wneud i brofi dy alwad ymhellach. Gallai fod yn daith dros gyfnod o amser.
Y man cychwyn yw gweddi, ac ymdawelu o flaen Duw i ystyried dy ddyfodol. Mae Duw yn awyddus i glywed be sy ar dy galon. Mae’n syniad da siarad efo bobl o ffydd rwyt ti’n parchu eu barn – dy weinidog, cyd-Gristnogion, ffrindiau a theulu. Ydyn nhw’n gweld galwad Duw ar dy fywyd?
Oes gen i’r sgiliau ar gyfer y weinidogaeth?
Tra bo pawb yn cynnig rywbeth gwahanol i’r eglwys, mae nodweddion mae bob gweinidog eu hangen, sef:
– y gallu i ymdrin â’r Beibl, Gair Duw, a chyfathrebu ei neges i gynulleidfa gyfoes
– y gallu i feithrin perthynas adeiladol gydag amrediad eang o bobl, gan eu hadeiladu yn eu cerddediad Cristnogol
– y gallu i gyd-gerdded â phobl mewn adegau o lawenydd a thristwch mawr
– y gallu i arwain yr eglwys mewn cenhadaeth, gan estyn allan i’r gymuned leol
– y gallu i weithio gydag eraill i adeiladu bywyd yr eglwys, a thrin yn ddoeth rhai sydd â gwahaniaethau barn
Nodweddion person addas i’r weinidogaeth
Bydd y person addas i’r weinidogaeth:
-â phrofiad dwfn o wirionedd yr Efengyl, ac yn adeiladu ei b/fywyd ysbrydol personol drwy weddi a myfyrdod yng ngair Duw
-â’r gallu i astudio, ac i ddal ati i ddysgu yn y gwaith
-â galwad gadarn i’r weinidogaeth, ac â dycnwch i ddal ati mewn sefyllfaoedd anodd
-yn berson o gymeriad da, ac â phersonoliaeth, doniau ac agweddau addas i’r rôl o weinidogaethu
-yn gweithio er lles yr eglwys, corff Crist, ym mhob modd posibl.
Hefyd mae angen
Bod yn aelod o EBC ers o leiaf 2 flynedd Cael eich cymeradwyo gan eich Henaduriaeth fel person addas i’r weinidogaeth. Archwiliadau meddygol a DBS boddhaol
Beth nesaf?
Dos ati i chwarae rhan yng ngwasanaethau a gweithgareddau’r eglwys leol dros gyfnod o amser. Bydd hyn yn rhoi cyfle i’r eglwys ffurfio barn am dy gymwysterau ar gyfer y gwaith. Pan fyddi’n teimlo’n barod, gelli symud mlaen efo dy ymgeisyddiaeth drwy dy Henaduriaeth leol. Bydd hyn yn golygu cael cefnogaeth dy eglwys leol a dy Henaduriaeth.
Profiad o’r gwaith
Mae cynllun ar gael drwy’r Rhaglen Genhadol, lle gelli weithio ochr-yn-ochr â gweinidog am 6 mis neu flwyddyn cyn ymgeisio. Mae hyn yn help i ti weld a yw’r weinidogaeth yn addas i ti, ac i bobl o dy gwmpas weld os wyt ti’n addas i’r weinidogaeth.
Hyfforddiant a thâl
O gael dy dderbyn fel ymgeisydd am y weinidogaeth efo EBC, bydd rhaglen hyfforddiant unigol yn cael ei greu ar dy gyfer. I berson ifanc gall hyn olygu mynd i’r brifysgol. I fyfyrwyr aeddfed, neu rai gyda chyfrifoldebau teuluol, gall olygu astudio yn y gymuned tra’n dal ymlaen efo’i gwaith bob dydd. Telir costau a lwfansau yn unol â’u sefyllfa, tra byddant yn ymgeisydd.
Adran Ymgeiswyr a Hyfforddiant
Wedi cwblhau yr hyfforddiant gofynnol, a sicrhau yr Adran Ymgeiswyr dy fod yn addas i’r rôl, byddi mewn sefyllfa i gael dy alw yn weinidog i ofalaeth ac i gael dy ordeinio ar gyfer y gwaith.
Cyfeiriadau defnyddiol
Gelli siarad efo’r staff hyfforddiant ar unrhyw adeg:
Cydlynydd Hyfforddiant:
Rhys Jones – rhys.jones@ebcpcw.cymru
Cyfarwyddwr Academaidd :
Parch W. Bryn Williams bryn.williams@ebcpcw.cymru