Iacháu Calonnau, Trawsnewid Cenhedloedd
Mehefin 19-21, 2020 – Capel Caersalem, Caernarfon gyda Dr Rhiannon Lloyd a’r tim.
Bwriad y gweithdy hwn yw arfogi Cristnogion i fod yn asiantau iacháu a chymod. Yn dilyn ei ddatblygu yn gyntaf yn Rwanda wedi’r hil-laddiad, gan Dr Rhiannon Lloyd, mae nawr yn cael ei redeg gan gredinwyr lleol mewn llawer rhan o’r byd. Mae’n ceisio dwyn iachâd a chyfanrwydd i gymunedau sy’n dioddef chwerwder a rhaniadau ethnig.
Gwahoddir pobl o gefndiroedd ethnig ac eglwysig gwahanol i gyfarfod â Duw a’i gilydd ar lefel y galon. Mewn awyrgylch diogel, fe’i hanogir i brofi iachâd ac fe’i galluogir i ddatblygu persbectif ac agweddau newydd.
Dilynwch y linc am fwy o wybodaeth a manylion sut i gofrestru: http://caersalem.com/cymodi/
