
DATGANIAD WASG
Elusen yn dod â thrafodaethau am Dde Sudan i Gymru
Mae’r asiantaeth ddyngarol a datblygu rhyngwladol Cymorth Cristnogol yn estyn gwahoddiad i gymunedau yng Nghymru i ddysgu am rôl hanfodol partneriaid lleol mewn gwaith dyngarol a chymodi.
O 18-21 Hydref bydd yr elusen yn dod ag eglwysi, arweinwyr eglwysi a cymunedol, cefnogwyr a phartneriaid at ei gilydd i glywed yn uniongyrchol am realiti bywyd yn Ne Sudan, lle mae gwrthdaro a’r argyfwng hinsawdd yn cynyddu’r heriau mae teuluoedd yn eu profi.
Mae partneriaid lleol Cymorth Cristnogol yn ymateb drwy weithio gyda chymunedau, gan gefnogi pobl i gynyddu gwytnwch, ymateb i argyfwng a chreu newid parhaol. Mae’n cynnwys gweithio gyda phartneriaid fel Cyngor Eglwysi De Sudan sy’n chwarae rôl amhrisiadwy yng ngwaith cyfryngu, cymodi a chydlyniad cymunedol, yn ogystal â chefnogaeth arian parod a chwnsela.
Ymhlith y partneriaid lleol o Dde Sudan mae Angelina Nyajima Simon Jial, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Hope Restoration South Sudan, mudiad a arweinir gan fenywod sy’n gweithio gyda ffoaduriaid, pobl wedi’u dadleoli’n fewnol a chymunedau bregus. Mae Angelina’n amddiffynnwr hawliau dynol blaenllaw ac yn heddychwraig. Mae ei gwaith yn cynnwys grymuso menywod a merched, ymateb dyngarol, datblygu cynaliadwy a gwaith cyfiawnder hinsawdd, atal trais ar sail rhyw a gwaith heddwch cymunedol.
Bydd Angelina yn ymuno â nifer o gyfarfodydd a digwyddiadau, gan gynnwys oedfa Diolchgarwch dwyieithog dan ofal Gofalaeth Glannau Ogwr am 10.30yb yng Nghapel y Tabernacl, Pen-y-bont. Ar nos Lun, 19 Hydref, o 6 o’r gloch ymlaen, mae gwahoddiad i Mystwyr Abertawe ar gyfer cwrdd arbennig dan waith celf Luke Jerram y ‘Gaia’. Ac ar nos Fercher 21 Hydref, hefyd o 6 o’r gloch, mae noson arbennig arall yn Eglwys Bedyddwyr Ararat Caerdydd.
Meddai Mari Tutesigensi, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru,
“Mae’n wir anrhydedd i ni groesawu Angelina Nyajima i Gymru, i rannu storïau o obaith, gwytnwch a gweithredu o Dde Sudan gyda’n cefnogwyr, eglwysi a phartneriaid yma yng Nghymru. Prin y cawn gyfleon fel hyn i glywed yn uniongyrchol gan ein partneriaid, felly hoffwn estyn gwahoddiad cynnes i bobl ddod i glywed am yr heriau sy’n wynebu cymunedau yn Ne Sudan a sut y gallwn wneud gwahaniaeth.
“Mae dros 7 miliwn o bobl – mwy na dwbl poblogaeth Cymru – yn wynebu newyn a chyfraddau uchel o ddiffyg maeth yn Ne Sudan, ac eto yn anaml byddwn yn clywed sôn yn y penawdau. Mae’n hollbwysig ein bod yn trafod sut y gall Cymru chwarae ei rhan wrth sicrhau bod cefnogaeth i waith cymodi, gweithredu dyngarol ac atal gwrthdaro yn cael ei chryfhau, gan gadw De Sudan yn uchel ar yr agenda rhyngwladol.
“Hefyd yn ymuno â ni mewn trafodaeth ag Angelina bydd partneriaid a ffrindiau Cymru-Sudan-South, gan gynnwys Israa Mohammad, Cadeirydd Partneriaethau Iechyd Cymru, Safa Elhassan, AS dros Gŵyr Abertawe, Dr Nicki Kindersley o Brifysgol Caerdydd, a’r Parchedicaf Cherry Vann, Archesgob Cymru. Bydd Angelina hefyd yn ymweld â Senedd Cymru ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru San Teilo.”
Meddai Arweinydd Polisi ac Eiriolaeth Fyd-eang Cymorth Cristnogol ar Gymod, Asha Kurien, bod yr ymweliad hwn i’r Deyrnas Unedig yn arwyddocaol: “Gydag etholiadau i fod i gael eu cynnal ar 22 Rhagfyr, mae Comisiwn Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn Ne Sudan wedi rhybuddio bod perygl mawr y gallai troseddau difrifol gael eu cyflawni os na roddir mesurau diogelu priodol ar waith. Ar adeg pan fod tensiynau gwleidyddol yn cynyddu, ansicrwydd yn parhau ac anghenion dyngarol yn dwysau, mae’n hollbwysig bod y gymuned ryngwladol yn gweithredu i atal rhagor o wrthdaro.”
I ddarganfod mwy am yr ymweliad a sut i gofrestru i ymuno: Cwrdd â’n partneriaid o Dde Sudan yng Nghymru | Christian Aid
DIWEDD
Nodiadau i olygwyr:
Am fwy o wybodaeth a cheisiadau am gyfweliad, plîs cysylltwch â Juliet Lunam – Jlunam@christian-aid.org a Mari Tutesigensi (ar gael i gyfweld yn Gymraeg a Saesneg) mtutesigensi@christian-aid.org