Ers misoedd bellach, mae ein brodyr a’n chwiorydd yng Nghrist yn Manipur yn cael eu herlid. Yn ol Open Doors mae mae cannoedd o eglwysi a miloedd o gartrefi Cristnogion wedi eu dinistrio. Erbyn hyn mae mae degau o filoedd o bobl wedi gorfod ffoi o’u cartrefi, llawer i Mizoram
Mewn ymateb, rydym wedi lansio apêl gweddi, a mi fyddwn yn cyfarfod bob bore dydd Gwener am 9.15 dros Zoom. Croeso cynnes i bawb ymuno.
Meeting ID: 892 2947 5730
Passcode: 295399
Gweddi wrth ein llywydd, y Parchg Aneurin Owen.
Gweddiwn dros Manipur
Arglwydd, clyw ein gweddi dros ein brodyr a’n chwiorydd yn Manipur.
Ti, a agoraist lwybrau i’r cenhadon o Gymru gynt i gyhoeddi efengyl cymod yng Nghrist yn Manipur, agor lwybrau gweddi a chymorth yn awr i ni yng Nghymru eto wrth i ni sylweddoli maint y difrod a difrifoldeb y sefyllfa sydd yn Manipur heddiw.
Ti, Arglwydd holl genhedloedd byd, tyrd a’th heddwch i galonnau pawb a fynno drais ac amddiffyn Di y gwan a’r dirym.
Ti, Arglwydd pob llwyth ac iaith, tyrd a’th gymod i gymunedau lle mae’r llosgi a’r lladd.
Ti, Arglwydd y rhai ysig o galon a’r distadl, disgyn yn nerth dy Ysbryd ar y rhai sydd yn byw mewn ofn, y digartref a’r galarus.
Arglwydd ein Duw, yn unol a’th air, nertha ni ac agor ein calonnau i weddio dros bawb sydd ar bob ochr yn y gwrthdaro hwn fel y byddant yn cael dy nerth Di i osod eu harfau o’r neilltu a derbyn grym dy faddeuant grasol.
Arglwydd Iesu, gwarchod dy eglwys – y rhai a wnaethpwyd yn agos trwy dy waed. Cynnal ein brodyr a’n chwiorydd yn agos yn dy galon ac yn ein calonnau ni a bydded i’th heddwch di deyrnasu.
Er mwyn dy enw,
Amen
Ar y 6ed o Hydref, derbyniasom lythyr wrth Eglwys Bresbyteraidd yr India am sefyllfa ein bordyr a chwiorydd yn Manipur.
6ed Hyd 2023
I Eglwys Bresbyteraidd Cymru
Testun: Apêl gweddi i EBC mewn perthynas â’r argyfwng yn Manipur
Cyfarchion cynnes iawn o swyddfeydd newydd Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd yr India.
Er yn teimlo’n betrus o wneud, yr wyf ar yr un pryd yn teimlo gorfodaeth i rannu am y sefyllfa yn Manipur, ac am wneud cais am gymorth EBC.
Mae’r sefyllfa yn Manipur wedi bod yn hunllefus ers Mai 3ydd 2023, a hynny oherwydd y gwrthdaro sydd rhwng y Meiteis, grŵp Hindŵaidd gan fwyaf, a’r Cristnogion sy’n perthyn i lwyth Kuki-Zomi. Mae’r ymosodiadau ar bentrefi, llosgi eglwysi a chartrefi a dwyn o eiddo wedi gorfodi llawer i geisio lloches mewn gwersylloedd nodded, gan ddibynnu’n gyfan gwbl ar gyfraniadau a chymorth gan Eglwysi, unigolion a Chyrff anllywodraethol. Cofnodwyd fod 197 o bentrefi, 349 o eglwysi a 7,526 o gartrefi wedi eu llosgi’n ulw, a bu raid i 41,425 o bobl symud i’r 350 o wersylloedd noddfa sydd wedi eu sefydlu i ateb gofyn y ffoaduriaid hyn. Symudodd llawer ohonynt o Manipur i Mizoram a taleithiau eraill yn yr India. Mae eglwysi, cyrff anllywodraethol ac unigolion yn Mizoram yn cynorthwyo’r ffoaduriaid hyn y tu fewn i, a’r tu allan i Manipur. Gan fod llawer o deuluoedd wedi colli eu tai a’u heiddo a bellach yn y gwersylloedd yma, mae’r eglwysi wedi ymrwymo i’w cynorthwyo i ddod o hyd i gysgod priodol mor fuan ag sydd yn bosibl, gan ein bod ar drothwy’r gaeaf, a’r gwersylloedd hyn yn le amhriodol ar gyfer treulio’r gaeaf.
Mae EBI wedi gwneud eu gorau i gynorthwyo’r eglwysi yn Manipur. Mae Cymanfa Gyffredinol EBI wedi anfon Rs 22,00,000 i Manipur. Mae Synod Mizoram wedi anfon bron i Rs 1,00,00,000 i adeiladu cysgod, ac i dalu am gymorth pellach. Yr ydym wedi bod yn codi arian o fewn i EBI, ond y mae’r angen yn sylweddol, a’n hadnoddau’n brin. Wedi dweud hyn, byddwn yn parhau i geisio codi arian, gan anfon beth bynnag ddaw i’r eglwysi yn Manipur.
Dyma fy apêl gostyngedig a chywir i EBC, gan fod ein gallu’n gyfyngedig i gyfarfod â gofyn y sefyllfa hon. Mae angen dybryd i adeiladu tai er mwyn cartrefi’r teuluoedd, a bydd angen prynu tir i osod y tai arnynt. Ar hyn o bryd, yr ydym yn canolbwyntio ar anghenion Synodau EBI. Mae’r anghenion cychwynnol i sicrhau adeiladu cysgod yn y gwahanol Synodau fel a ganlyn:
- Synod Manipur 150
- Synod Zou 50
- Synod Arfaethedig Tangphai 250
Mewn perthynas â Synod Arfaethedig Tangphai, daeth cymorth gan Synod Mizoram, a bellach adeiladwyd 60 o dai. Mae’r gwaith o adeiladu’r 190 sy’n weddill yn y broses o gael cytundeb. Yr wyf yn gobeithio y bydd Synod Mizoram yn parhau i ymrwymo i’r prosiect yma. Nid yw Synodau Manipur a Zou mewn sefyllfa i fedru cychwyn adeiladu ar eu pen eu hunain. Cost adeiladu bob tŷ yw tua Rs 2,00,000, gan gynnwys anghenion brys y teuluoedd. O ganlyniad, mae yna angen brys am Rs 4,00,00,000 er mwyn adeiladu 200 o dai.
Cais cywir yw hwn felly yn gwahodd EBC i sefyll gyda ni wrth inni wynebu’r cyfnod argyfyngus hwn, gan weddïo dros yr eglwysi yn Manipur.
- Gweddïwch dros y dioddefwyr yn yr argyfwng yma.
- Gweddïwch dros sylweddoli proses i greu heddwch.
- Gweddïwch ar i’r Ysbryd Glân rymuso pobl Manipur, i sicrhau na fyddant yn amddifad o obaith, gan sefyll yn fwy hyderus yn eu ffydd, yn meddu hygrededd, ac yn bobl undod.
- Gweddïwch y bydd yr Eglwys yn sefyll yn eofn yng nghanol y fath droeon a heriau, fel y bydd i eraill weld grym Duw, gan ddod i berthynas bersonol â Christ.
- Gweddïwch y bydd gan bobl Manipur dystiolaeth o gariad Duw i’w rannu, a hynny drwy gyfeirio at gymorth ac haelioni Eglwysi.
Gras a Thangnefedd.
Eglwys Bresbyteraidd yr India.