Apel Effaith Covid 19 ar Ysbytai Gordon Roberts Shillong ac Ysbyty Norman Tunnel yn Jowai
Apêl Covid 19 dros Ysbyty H.Gordon Roberts yn Shillong, ac Ysbyty Norman Tunnel yn Jowai
Mae effeithiau Covid 19 yng Ngogledd Ddwyrain India ac yn enwedig ym Meghalaya yn cynyddu bob dydd. Dyma ein cyfle fel eglwys i ymateb i’r sefyllfa hon.
Ein Nod yw codi £30,000
Mae’r ddwy ysbyty yn orlawn o gleifion, ac maen nhw nawr yn ystyried y ffordd orau o sicrhau mwy o le, ac yn trefnu staff, sydd wedi bod dan bwysau ers cryn amser, i allu rhoi mwy o’u hamser. Mae prinder ocsigen meddygol ac awyryddion hefyd, ac mae’n anodd trin nifer y cleifion heb yr adnoddau meddygol angenrheidiol. Mae EBC wedi penderfynu cychwyn apêl ariannol i godi £ 30,000 i ddiwallu’r angen brys. Ein bwriad yw prynu peiriannau Ocsigen neu ‘Oxygen Concentrators’ ar gyfer Clinigau Gwledig Ysbyty H. Gordon Roberts, ac ar yr un pryd greu cyfleuster i leoli’r prif beiriant yn yr ysbyty yn Shillong. Rydym hefyd yn bwriadu prynu peiriannau anadlu (non invasive ventilators) ar gyfer Ysbyty Norman Tunel. Rydym yn ymwybodol y bydd yr angen cymdeithasol ac economaidd hefyd yn dwysáu yn nhalaith Meghalaya fel llawer o daleithiau eraill yn India dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Ein braint fel Eglwys ar hyn o bryd yw sefyll gyda’n Chwiorydd a’n Brodyr ac ymateb i’r anghenion sy’n eu hwynebu heddiw.
Diolch am eich cefnogaeth.