Newyddion

Astudiaeth sylweddol o fywyd Cymraeg a Chymreig dinas Lerpwl

 

Adolygiad Dr J. Graham Jones o Ar Drywydd Cymry Lerpwl (Gwasg y Lolfa) £14.99 (clawr meddal)

Mudodd yr awdur o Gwm Cynon i ddinas Lerpwl yn y flwyddyn 1968 i dderbyn swydd fel gweinidog yr efengyl, ac yno y bu’n byw byth ers hynny. Bu ei gyfraniad yno yn eithriadol ddisglair mewn nifer o gyfeiriadau gwahanol. Nid y lleiaf ohonynt yw ei gyfres faith o gyhoeddiadau academaidd niferus ar hanes y ddinas a’i phobl. Mae’r llyfr hwn mewn llawer ystyr yn chwaer gyfrol i’r astudiaeth wefreiddiol gynt Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl (Y Lolfa, 2019).

Ac mae ffrwyth y gwaith arbennig hwn bellach yn cael ei grynhoi o fewn y gyfrol sylweddol, hynod hardd hon sydd yn rhedeg i ddim llai na 311 o dudalennau llawn gwybodaeth. A chyflwynir y llyfr i gydnabod Ymddiriedolwyr Cymdeithas Etifeddiaeth Cymry Glannau Mersi am eu gwaith diflino byth ers troad y ganrif. Ceir rhagair campus gan yr Athro Dylan Foster Evans, Caerdydd, un sydd â’i wreiddiau yn gadarn o fewn y ddinas hon.

Mae darn cyntaf yr astudiaeth yn crynhoi hanes y ddinas o’r flwyddyn 1217 hyd at y dwthwn hwn. Rhoddir sylw arbennig i gyfraniad y Cymry at ddatblygiad a gweithgareddau’r ddinas, yn bennaf oll fel gweinidogion yr efengyl ac aelodau’r capeli, fel beirdd a chefnogwyr yr eisteddfodau. Hanes  capeli Cymraeg yr Annibynwyr yno sydd hefyd yn derbyn sylw o fewn adran C yn y gyfrol.

Ymhlith y themâu eraill sydd yn  derbyn sylw yma yw effaith y bomio erchyll ar y ddinas ym mis Mai 1941, cyfraniad pobl Lerpwl at sefydlu a datblygu’r Wladfa yn Ne America, hanes y llong Mimosa, a phwysigrwydd y ddinas yn hanes J. Saunders Lewis, awdur Tynged yr Iaith (1962) ac un o feibion disgleiriaf dinas Lerpwl.  Yn  ogystal ceir deunydd difyr yn ymwneud â hanes meddygaeth o fewn y ddinas.

Mae adran B yn cynnwys manylion am nifer o feirdd a llenorion amlwg yr ardal, ac yn eu plith Gwilym Hiraethog, Minimus, Llew Llwyfo a Pedrog. Cofiannau byr am nifer fawr o unigolion, cyfanswm o 57, a gyflwynir o fewn Adran CH. Ymhlith yr enwocaf ohonynt yw Thomas Charles Edwards, prifathro cyntaf Coleg Prifysgol Cymru ym 1872, y gwleidydd Rhyddfrydol o fri Syr John Herbert Lewis, un o bileri mudiad Cymru Fydd, Ronw Moelwyn Hughes, a’r Dr Emyr Wyn Jones, meddyg, awdur a gwladgarwr o fri.

Ac mae pump o beldroedwyr enwog yn derbyn sylw o fewn adran D, yn eu plith Craig Bellamy a Joe Allen. Yma hefyd croniclir hanes cynnar Clwb Pêl-droed Everton rhwng 1870 a 1906. Nodir i Glwb Pêl-droed Everton, yn ystod mis Mai 2025, ymadael â Pharc Goodison i gartref newydd o fewn stadiwm newydd a adeiladwyd ar safle doc Bramley Moore ar lan yr afon Merswy, a hynny ar dilyn dros ganrif ar ei hyd yn Goodison.

Nid y lleiaf o gryfderau’r gyfrol yw’r wledd o luniauo rhai o’r unigolion a drafodir yn y gyfrol a’r mapiau eithriadol ddefnyddiol a gynhwysir ynddi.

I gloi, y mae gwybodaeth y Dr D. Ben Rees ynghylch Cymry Lerpwl yn gwbl ddigymar. Yn y gyfrol yma gall blethu ynghyd ei ddawn fel ymchwilydd hanesyddol â’i brofiad o fod wedi arwain y Gymdeithas Gymraeg yn Lerpwl ers degawdau. Mae’n waith sy’n dysteb deilwng i gyfraniad y Cymry ar Lannau Merswy gan ymfalchïo yn eu cyfraniad, ond heb ei oreuro.