Newyddion Eglwys Bresbyteraidd Cymru
28 Mawrth 2025
I’w Ryddhau Ar Unwaith
Beth yw ystyr y meini hyn i chwi?
Cynhadledd arloesol yn archwilio ffyrdd newydd o ddefnyddio hen adeiladau eglwysig
Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru (EBC) yn cynnal cynhadledd feiddgar, yn dwyn y teitl a geir yn y Beibl: Beth yw ystyr y meini hyn i chwi? ? (Josua 4:6). Ar ddydd Mercher 2 Ebrill yng nghapel Gloddaeth yn Llandudno, bydd cynulleidfa o weinidogion, arweinwyr elusennau a busnes, arloeswyr cenhadol ac arbenigwyr adeiladu yn archwilio sut y gellir addasu hen adeiladau ar gyfer y Gymru fodern.
Dywedodd y Parch Nan Powell-Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru: “Mae hwn yn ddigwyddiad pwysig a strategol i’n henwad. Mae’n rhaid i ni ofyn i’n hunain ‘beth mae’r meini hyn yn ei olygu i ni heddiw?’ Ar hyn o bryd rydym yn berchen ar dros 800 o adeiladau gan gynnwys capeli a thai. Mae’r gwaith rheoleiddio a chynnal a chadw cynyddol ar yr adeiladau hyn yn disgyn ar lai a llai o aelodau hŷn a ffyddlon o fewn y gynulleidfa”.
Mae llawer o adeiladau EBC yn cael eu tanddefnyddio. Pan nad yw capel bellach yn hyfyw a’r achos yno yn dod i ben, yn y rhan fwyaf o achosion mae’r adeiladau’n cael eu gwerthu heb fawr o ystyriaeth yn cael ei roi i ddefnydd arall posibl.
Yn 2021, dangosodd arolwg* fod 56% o gynulleidfa EBC dros 70 oed.
Yn 2023, dim ond 2.5% o’i aelodaeth oedd o dan 25 oed.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae aelodaeth EBC wedi gostwng o 30K i 13K, ac mae cau eglwysi yn cyflymu yn enwedig ers Covid.
Rhwng 2005 a 2017, y gostyngiad blynyddol mewn aelodaeth oedd 5%, fodd bynnag, erbyn 2022, roedd wedi cynyddu i 12%.
Dywedodd y Parch Nan Powell-Davies: “Allwn ni ddim parhau fel hyn. Mae hi’n amser rŵan ar gyfer breuddwydion newydd a chynlluniau dewr. Adeiladodd ein cyndeidiau’r capeli hyn i wasanaethu Duw yn eu cenhedlaeth eu hunain. Mae heriau bod yn gymuned Gristnogol yng Nghymru yn 2025 yn wahanol iawn i’r rhai ganrif a mwy yn ôl. Mae’n raid inni addasu ar gyfer y cyfleon newydd sydd gennym, neu fe fyddwn yn diflannu oddi ar lwyfan hanes. Newid neu marwolaeth, dyna’s her sydd o’n blaenau ni. Er nad darlun o ddirywiad llwyr sydd gennym, rhaid inni fod yn fwriadol ynglŷn â’n defnydd o’n hadeiladau pan nad oes defnydd iddyn nhw gan y gynulleidfa bellach.
“Mae’r meini hyn yn siarad â ni, ond ydyn ni’n gwrando?”
Diwedd
Am wybodaeth i’r cyfryngau a chyfweliadau, cysylltwch â Gethin Russell-Jones, swyddog y wasg, Eglwys Bresbyteraidd Cymru 07378 309268
Nodyn y golygydd:
*daw’r ystadegau a ddyfynnir yn y datganiad hwn oddiwrth EBC
Mae’r lluniau yn dangos Moreia, Llangefni yn ogystal a ffotograff o gapel EBC
Ceir rhaglen y diwrnod isod
Eglwys Bresbyteraidd Cymru
Cynhadledd ar Adeiladau
Eglwys Gloddaeth, Llandudno, LL30 2SY
2il Ebrill, 2025
Beth yw ystyr y meini hyn i chwi? (Josua 4: 6-7)
9:00 | Te/Coffi | |
Rhan 1: Straeon Newyddion | ||
9:30 | Sylwadau Agoriadol a Defosiwn | Parchg. Nan Powell-Davies |
9:40 | Cyfweliadau: GloddaethBerea NewyddMoreia, Llangefni | Parchg. Neil KirkhamParchg. Eric JonesIeuan Wyn Jones |
10:00 | Stori Newyddion Da Ainon | Phil Lloyd |
10:10 | Ffynnon: Plannu eglwys – prynu neu beidio â phrynu? | Steffan a Gwenno Morris |
10:20 | Craig Blaenau: Plannu eglwysi – Defnyddio mannau cymunedol | Jos a Lydia Edwards |
10.30 | Rhan 1 – Holi ac Ateb | |
10:45 | Te/Coffi | |
Rhan 2: Llywodraethu a Rheoliadau | ||
11:15 | Jigso Llywodraethu | Ffion Williams |
11:25 | Portffolio Adeiladau EBC | Stephen Wynn |
11:35 | Adolygu a gwireddu dichonoldeb yr ystâd | Christian Williams |
11:45 | Addasu ein hadeiladau ar gyfer Defnydd Cymunedol | CADW |
11:55 | Rhan 2: Holi ac Ateb | |
12:10 | Ein cymunedau a’r iaith Gymraeg a Holi ac Ateb | Dafydd Iwan |
12:50 | Cinio | |
Rhan 3: Cymuned | ||
1:30 | Trosi adeiladau eglwysig yn dai fforddiadwy –Housing Justice Cymru | Bex Kentfield |
1.40 | Defnyddio ein hadeiladau er budd ein cymunedau | Ieuan Wyn Jones |
1:50 | Materion amgylcheddol | Elfed ac Anna Lewis |
2:00 | Sut gall CTB fod o gymorth i EBC (Cronfa Treftadaeth Bensaernïol) | Adam Hitchings |
2:10 | Rhan 3: Holi ac Ateb | |
2.25 | Te/Coffi | |
Rhan 4: Newid neu Ddirywiad | ||
2:45 | Newyddion Da neu Newyddion Drwg? (Delio â’r Wasg) | John Roberts |
2:55 | Beth oedd ystyr y meini hyn i’n cyndadau? | Eryn White |
3:05 | Creu Gofod am Bartneriaethau Cyd-destunol | Owen Griffiths |
3:15 | Rhan 4: Holi ac Ateb | |
3:30 | Sylwadau Cloi a Gweddi | Llywydd |
3:45 | Gorffen |
