Canolfan Gelfyddydau Parc Arts yn Cyflwyno Nature in Fabric and Frame
May 22, 2026
Eglwys Bresbyteraidd Cymru 21 Mai 2026 Newyddion i’w Rhyddhau ar Unwaith
Canolfan Gelfyddydau Parc Arts yn Cyflwyno Nature in Fabric and Frame
Mae Parc Arts, canolfan gelfyddydau arobryn ym Mhontypridd, yn lansio arddangosfa ffotograffiaeth a chelf ffabrig ddydd Iau, 21 Mai, yn Stryd y Dywysoges, Trefforest. Mae’r arddangosfa newydd fawr hon yn dilyn yn fuan ar ôl i Parc Arts ennill Gwobr Busnes o Ansawdd 2025 (Quality Business Awards) am y Lleoliad Celfyddydau Gorau yn Rhondda Cynon Taf.
Teitl yr arddangosfa yw Nature in Fabric and Frame. Mewn gwirionedd, mae hon yn arddangosfa ddeuol o ffotograffiaeth a chelf ffabrig gan Shirley Doyle a Vaisey Bramley.
Ers amser maith, mae Vaisey wedi bod yn angerddol dros ffotograffiaeth tirluniau a byd natur. Fel ffotograffydd lleol sydd wedi’i dysgu ei hun, mae Vaisey yn wybodus a medrus nid yn unig mewn technegau ffotograffig ond hefyd ym myd natur. Mae’n gyfarwydd iawn â bywyd gwyllt ac wedi dysgu am arferion bwydo, cylchoedd bridio a nodweddion anifeiliaid.
Daw Shirley Doyle â nodweddion chwaraeus ac ymchwilgar i’w gwaith gyda ffabrigau. Gan archwilio’r fflora a’r ffawna lleol, ystyried trefniannau, chwarae â lliw ac arbrofi, mae creadigaethau Shirley yn adlewyrchu natur mewn ffordd dyner sy’n llawn mynegiant.
Dywedodd Nate Orr (llun wedi’i atodi), aelod o dîm Parc Arts: ‘Yn y ffurfiau gwahanol yma mae yna dynerwch, didwylleddd, a gwahoddiad i aros a mwynhau natur. Mae ’na wahoddiad i arafu, eistedd mewn cuddfan neu ar lan afon i gael y llun perffaith, ac aros i weld beth ddaw.’
Mae’r arddangosfa Nature in Fabric and Frame i’w gweld rhwng 21 Mai a 5 Mehefin yn Parc Arts, 2 Stryd y Dywysoges, Trefforest, Pontypridd CF37 1RY. Am fanylion yr amseroedd agor a’r digwyddiadau, ewch i’r wefan: www.parcarts.cymru neu dilynwch eu cyfryngau cymdeithasol: @Parc Arts.
Diwedd
Ar gyfer gwybodaeth i’r cyfryngau a chyfweliadau, cysylltwch â Gethin Russell-Jones ar 07378 309268.