Yn 2019 dechreuwyd trafodaeth rhwng Eglwys Bresbyteraidd Cymru a’r enwadau Anghydffurfiol Cymraeg gyda’r bwriad o greu un cyhoeddiad Cristnogol, wythnosol yn y Gymraeg.
Cytunodd Undeb y Bedyddwyr ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru i fynd ati i greu un papur newydd, o’r enw Cenn@d. Golygai hyn yn ymarferol fod Seren Cymru, sef papur enwadol y Bedyddwyr, a’r Goleuad (Eglwys Bresbyteraidd Cymru) yn peidio â bod a bod papur newydd yn cael ei greu ar y cyd. Cytunwyd i’r bwriad yng Nghymanfa Rithiol 2020 a bydd darllenwyr Y Goleuad wedi gweld cyfeiriad at y penderfyniad yn Llais o’r Gymanfa.
Yr wythnos yma, a ninau’n dathlu gŵyl ein nawddsant Dewi, mae’r Cenn@d yn cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf. Gweddïwn y bydd yn rhannu cyfoeth profiad dau enwad, a’n gobaith yw y byddwn yn datblygu llais proffwydol a diwyg perthnasol ar gyfer cenhedlaeth newydd. Hefyd, wrth rannu adnoddau byddwn yn medru parhau i galonogi, ysbrydoli ac adeiladu’n darllenwyr mewn offeryn fydd yn ddefnyddiol mewn oes ddigidol newydd.
Bydd Cenn@d yn ymddangos ar lein bob wythnos, ac oherwydd buddsoddiad gan y ddau enwad bydd ar gael yn rhad ac am ddim, mewn lliw llawn.
Gellir darllen y Cenn@d yn rhad ac am ddim yn wythnosol mewn sawl ffordd wahanol:
- gall rhai sy’n methu cael mynediad i gyfrifiadur sicrhau copi caled ohono drwy gysylltu gyda’r swyddfa ar 029 2062 7465;
- gellir dod o hyd i Cenn@d ar wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru, gwefan Cenn@d neu ar dudalen Facebook Cenn@d
- e-bostiwch Eleri ar: eleri@ebcpcw.cymru i gael eich ychwanegu at y rhestr dosbarthu e-bost wythnosol.
Bydd y ddolen i’r Cenn@d yn cael ei hanfon at bawb sydd ar ein rhestr e-byst ac fe fydd modd i chi, yn union fel ag yr ydym yn rhannu’r Goleuad ar hyn o bryd, ei rannu ymhlith eich aelodau yn rhad ac am ddim.
Os oeddech yn derbyn Y Goleuad drwy’r post yn ystod y misoedd diwethaf, byddwch yn derbyn y Cenn@d yn yr un modd.
Os nad oes gennych chi, neu un o’ch aelodau fynediad i’r copi ar-lein, ac yr hoffech gael copi wedi’i anfon i’ch cartref yn rhad ac am ddim, a wnewch chi lenwi’r ffurflen sydd wedi ei hatodi.
Hoffai’r golygyddion eich atgoffa fod llwyddiant, neu fethiant, unrhyw gyhoeddiad yn dibynnu ar ei gyfranwyr a’i ddarllenwyr. Hoffent feddwl y bydd ein darllenwyr hefyd yn gyfranwyr! Byddant yn falch o groesawu ymatebion gennych i gynnwys y Cenn@d. Hoffent dderbyn newyddion gennych am ddigwyddiadau a dathliadau’n lleol yn eich capel chi. Er enghraifft, rhowch wybod iddynt sut fyddwch yn dathlu’r Pasg yn y cyfnod dyrys yma. Beth yw eich cynlluniau? Rhannwch eich profiad oherwydd gallai’r hedyn o weithgarwch fod yn symbyliad i eraill hefyd! Hoffent wybod am eich profiad o weithgarwch sy’n estyn allan y tu hwnt i furiau eich capel. A phan ddaw’r Cyfnod Clo i ben, rhannwch sut y byddwch yn dathlu’r llawenydd o gydgyfarfod drachefn a hefyd beth yw’r heriau sy’n eich wynebu wrth ailgydio.
A chofiwch anfon lluniau. Carwn bwysleisio mai eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod y rhai sy’n ymddangos yn eich lluniau yn cydsynio i hynny. Hefyd, er mwyn diogelwch ein plant, a wnewch chi sicrhau bod rhieni wedi rhoi eu caniatâd cyn i luniau o blant eich Ysgolion Sul/ Clybiau Plant ymddangos?
Gellir anfon at un o’r 3 golygydd:
- Parchg Aled Davies, golygydd newyddion lleol o’r eglwysi: aled@cennad.cymru
Rydym yn awyddus iawn i gynnwys newyddion o’r eglwysi lleol: digwyddiadau, symudiadau, teyrngedau byr, llongyfarchiadau a dymuniadau gorau.
- Parchg Huw Powell-Davies, golygydd cydenwadol: huw@cennad.cymru
- Parchg Watcyn James, golygydd erthyglau golygyddol: watcyn@cennad.cymru
Byddem yn ddiolchgar iawn pe byddech yn barod i rhannu’r newyddion hyn gyda’ch cyd-aelodau ac anfon y ffurflen yn ôl i’r swyddfa yn ôl eich angen.
Cofiwch i ddilyn Cenn@d Facebook a ledanu’r neges.
Diolch yn fawr.