Newyddion

 

Mae ARFOGI yn ddigwyddiad blynyddol i annog ac arfogi oedolion ifanc o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Mae croeso i fyfyrwyr, teuluoedd ifanc ac unrhyw un yn eu 20au a 30au!

Wrth i ni ddod at ein gilydd i addoli, gwrando ar Air Duw a mwynhau cymdeithas gynnes, ein gweddi yw y cawn ein trawsnewid yn Ei bresenoldeb ac y byddwn yn gadael ARFOGI 24 wedi ein hannog yn ddwfn i fyw yn llwyr i’r Arglwydd; wedi ein harfogi i chwarae ein rhan a gyda disgwyliad newydd i weld Duw yn symud yn nerthol yn ein cymunedau, cenedl a’n byd.

Pris y penwythnos cyfan yw £72 ac mae hyn yn cynnwys bwyd a 2 noson o lety yn Coleg y Bala neu Bryn y Groes. £25 yw’r pris os yn dod am y dydd Sadwrn yn unig. Bydd gofal plant ar gael bob sesiwn hefyd. I archebu lle bydd angen pwyso ar y ddolen isod:

 

Archebwch lle yma