At:- Arweinyddion a swyddfeydd eglwysi Cytûn; Swyddogion eiddo a chyfatebol; Grŵp Laser; Rhestr bostio Covid19
Yn dilyn trafodaethau manwl rhwng Cytûn a Llywodraeth Cymru, rydym wedi clywed y newyddion calonogol isod heddiw gan Lywodraeth Cymru am argaeledd Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru ar gyfer eglwysi a chymunedau ffydd. Noder mai pythefnos yn unig sydd cyn y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb (er bod mwy o amser i lunio ceisiadau cyflawn). Oherwydd y prinder amser. Byddai Cytûn yn argymell y gellid cyflwyno ceisiadau ar ran grwpiau o addoldai (fesul Cylchdaith, Esgobaeth neu enwad, er enghraifft).
Rydym yn amrywio’r gofynion cymhwysedd ar gyfer cam 3 Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru ar unwaith, gan lacio’n rhannol yr angen i fuddiolwyr fod yn gyrff corfforedig. Rydym yn cydnabod bod rhai sefydliadau yn cael eu hatal yn benodol rhag ymgorffori yn eu rhinwedd eu hunain, rhywbeth sy’n arbennig o berthnasol i rai cymunedau ffydd. Felly, os caiff corff ei sefydlu drwy Siarter Frenhinol neu archddyfarniad tebyg ar lefel genedlaethol, byddwn yn derbyn ceisiadau gan grwpiau ffydd lleol cysylltiedig, er na fyddant byth yn gorff corfforedig eu hunain.
Serch hynny, mae’n ddealladwy bod angen iddynt fodloni holl feini prawf eraill y gronfa, sy’n golygu ar gyfer cyrff crefyddol mai dim ond i gefnogi gweithgareddau o fath ‘allgymorth’ y gellir defnyddio cyllid ac nid ar gyfer yr hyn y gellid ei alw’n ‘addoli’. Bydd yn rhaid i ymgeiswyr allu dangos sut mae costau presennol yn rhannu rhwng y meysydd hyn. Mae manylion llawn y gronfa ar wefan CGGC https://wcva.cymru/cy/cyllid/buddsoddiad-cymdeithasol-cymru/cronfa-gwydnwch-trydydd-sector-cymru/
Mae’r gronfa yn agored i Ddatganiadau o Ddiddordeb newydd tan ddiwedd mis Ionawr. Os oes gan unrhyw un unrhyw ymholiadau neu eisiau arweiniad yna y cam cyntaf yw e-bostio WCVA ar sic@wcva.cymru
Yn ehangach, mae trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda’r Ganolfan Ragoriaeth Grantiau ynghylch sut y gallwn ymestyn y dull hwn i gyllido arall yn y dyfodol. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad ar hyn wrth i bethau ddatblygu.