Galw am Cadoediad ar unwaith ym Mhalestina
Datganiad gan Cyngor Cenhadaeth Fyd-Eang (Council for World Mission)
Mae’r Cyngor Cenhadaeth Fyd-eang (CWM) yn condemnio, yn y termau cryfaf, warchae erchyll Israel ar Balestina meddianedig sydd wedi bod yn dadwreiddio, dadleoli, a lladd sifiliaid diniwed ac yn dinistrio eu cartrefi. Tra bod gweithredoedd treisgar y milwriaethwyr Hamas yn erbyn sifiliaid Israel wrth herwgipio a lladd yn annynol, mae gwarchae erchyll Israel ar Balestina, yn enwedig pobl Gaza, hyd yn oed yn fwy annynol a rhaid ei gondemnio.
Mae gorchymyn gwacáu milwrol Israel i adleoli 1.1 miliwn o bobl yn drychinebus, gan fygwth bywydau pobl ddiniwed. Mae’r argyfwng dyngarol sy’n datblygu yn ddigynsail oherwydd y blocâd llwyr o gyflenwadau canolog fel bwyd, dŵr, meddygaeth a thrydan. Mae gwarchae llwyr Gaza, gan arwain pobl ddiniwed yn fwriadol i newyn a marwolaeth, yn drosedd yn erbyn dynoliaeth o dan gyfraith ryngwladol. Nid yw’n ddim byd ond hil-laddiad o boblogaeth ddiniwed o dros filiwn.
Mae’r cylch dieflig presennol o drais yn dangos nad yw llywodraeth Israel yn dangos unrhyw barch at gyfraith ryngwladol a dim gwerth i fywyd dynol. Mae’n dangos eu bod yn benderfynol o ddileu holl boblogaeth Palestina sy’n cael ei meddiannu. Mae dioddefaint parhaus y bobl yn Gaza, ynghyd â cholli bywydau diniwed, yn argyfwng dyngarol trallodus sy’n mynnu sylw ar unwaith gan y gymuned ryngwladol. Mae’n rhaid i ni, felly, godi ein lleisiau ar y cyd a mynnu’r canlynol:
Rydym yn galw ar Hamas ac Israel am gadoediad ar unwaith a diwedd i’r trais. Mae’n hanfodol i Hamas a llywodraeth Israel wadu’n ddiamwys unrhyw ymdrechion i ryfel, hil-laddiad, goresgyniad, neu ddefnyddio trais fel modd i ddatrys y gwrthdaro hwn.
Rydyn ni’n mynnu bod Israel yn atal y gwarchae ar unwaith a chaniatáu danfon a mynediad at gymorth dyngarol. Mae sicrhau mynediad at fwyd, dŵr glân, gofal meddygol a lloches yn rheidrwydd moesol.
Rydym yn mynnu bod pob plaid yn cadw at gyfraith ryngwladol, gan gynnwys amddiffyn sifiliaid a’u hawliau dynol. Rhaid i Israel gael ei dal yn atebol gan y gymuned fyd-eang am dorri cyfraith ryngwladol trwy’r gwarchae llwyr parhaus.
Rydym yn mynnu bod llywodraeth Israel yn atal eu rheolaeth gyson, gwyliadwriaeth, a thrais yn erbyn sifiliaid diniwed ym Mhalestina trwy gynnal rhyddid, ymreolaeth ac urddas dynol. Rhaid rhoi’r gorau i ddefnyddio llwyfannau cyfryngau digidol i ledaenu gwybodaeth ffug a chasineb at Balestina.
Galwn ar y cenhedloedd am eu distawrwydd digywilydd dros erchyllterau Israel yn erbyn sifiliaid diniwed. rydym yn datgelu ac yn condemnio beiusrwydd UDA a’r DU, sef prif yrwyr yr ymerodraeth filwrol fodern, sydd bellach wedi ymuno â’r UE, wrth gynorthwyo a hybu system apartheid ymsefydlwyr Israel yn barhaus.
Ymunwn â’r holl leisiau ar draws y byd i adeiladu pŵer pobl i rwystro’r cynlluniau imperialaidd yn y Dwyrain Canol, i atal gwarchae Gaza ac i roi diwedd llwyr ar feddiannaeth Palestina.
Mae CWM yn cynrychioli dros 22miliwn o Gristnogion yn fyd eang. Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn un o’r 32 o Eglwysi sy’n aelodau o’r Cyngor.
“Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd, ac a gerydda bobloedd lawer:
a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau,
a’u gwaywffyn yn bladuriau:
ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl,
ac ni ddysgant ryfel mwyach.” (Eseia 2:4)
#StandWithGaza
Dduw bywyd, Deuwn o dy flaen gyda chalonnau trymion, gan geisio dy heddwch a dy gyfiawnder di ynghanol y gwrthdaro cynyddol yn Gaza. Gweddïwn dros y rheiny sydd wedi eu hanafu a theuluoedd y rhai sydd wedi eu lladd, y rhai sydd a’u bywydau wedi eu darnio, a dioddefwyr y ffrwydrad yn yr ysbyty. Dyro iddyn nhw i gyd dy nerth a dy gysur, cysgod rhag niwed, a chaniatâ y rhai ifanc yno i dyfu mewn byd yn rhydd o drais. Gweddïwn ar i gyfiawnder fod yn drech nag anghyfiawnder, ac y caiff llais dy bobl di yn nhiroedd Gaza ei glywed. Helpa ni i gofio bod pob bywyd yn sanctaidd, ac yn ein hymchwil am heddwch a chyfiawnder, bydded inni weld urddas cynhenid pob un o’th blant. Caniatâ ddoethineb a thrugaredd i’r holl bobl yn Israel a Phalesteina fel y byddant yn canfod y llwybr at heddwch parhaol. Cyfnertha benderfyniad a dyfalbarhad y rhai sy’n ceisio gwneud heddwch, yn agos ac ymhell, wrth iddyn nhw weithio yn ddiflino i adeiladu pontydd o obaith am fywyd newydd o ffyniant.
Arglwydd trugarha!
Yn enw Iesu y gweddïwn. Amen.