Newyddion

Annwyl gyfeillion

Mae apel Nadolig eleni yn canolbwyntio ar drais yn erbyn miliynau o bobl sydd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi oherwydd gwrthdaro, ac mae’r straeon yn dod o gymunedau yn Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (DRC). Mae miliynau o deuluoedd, a orfodwyd i ffoi rhag y trais rhwng nifer o grwpiau arfog a’r lluoedd llywodraethol, bellach yn byw mewn amodau difrifol, amharchus, a llawn gyda mynediad cyfyngedig i fwyd, dŵr glân, glendid a thrydan. Mae gwasanaethau hanfodol wedi cael ei ymosod arno, gan gynnwys ysbytai, banciau, ysgolion a marchnadoedd. Mae’r ysbytai sy’n aros ar agor yn orlawn ac yn brwydro i drin cleifion. Gyda banciau wedi eu gorfodi i gau am fisoedd ar y tro, nid yw’r rhai sy’n gallu ennill arian yn medru cael mynediad at arian, gan wthio eu teuluoedd i argyfwng. Ond mae gobaith. Mae Cymorth Cristnogol wedi gweithio gyda sefydliadau lleol yn y DRC ers y 1970au ac yn awr yn helpu pobl mewn gwersylloedd sydd wedi gorfod gadael eu pentrefi a’u cartrefi.

Mae modd dod o hyd i’r adnoddau yn y ddolen yma: Christmas Appeal 2025 | Christian Aid sydd yn cynnwys adnodd Naw Llith a Charol ar gyfer eglwysi a hanes Chance, mam ifanc sydd wedi colli popeth.

Diolch am eich cefnogaeth y Nadolig hwn ac os gallaf fod o unrhyw gymorth, peidiwch a phetruso rhag cysylltu gyda mi.

 

Llinos Roberts

Swyddog Ysgogi Eglwysi a Chodi Arian Cymru / Wales Church Engagement & Fundraising Officer