Newyddion

 

Annwyl ffrindiau a partneriaid,

Mae’n bleser i mi rannu gwahoddiad i ymuno â Cymorth Cristnogol Cymru dydd Mawrth nesaf (22 Medi, 1 o’r gloch) am sgwrs rithiol dros ginio gyda James Wani, Arweinydd Rhaglen a Phartneriaeth Cymorth Cristnogol yn Ne Sudan. Manylion pellach a sut i ymuno isod ac wedi atodi. Os gwelwch yn dda, a wnewch chi rannu’r gwahoddiad gyda cydweithwyr a’ch rhwydwaith hefyd? Mae llun di atodi i rannu dros y cyfryngau cymdeithasol.

🌍  Llygaid Cymru ar Dde Sudan: Gwebinar dros ginio

Sgwrs gyda James Wani, Cymorth Cristnogol De Sudan

 📅 Dydd Mawrth 22 Medi, 1 o’r gloch

➡️ Cofrestrwch yma i dderbyn y manylion ymuno

Trwy ein Apêl Cynhaeaf eleni, rydym yn taflu golau ar realiti bywyd cymunedau yn Ne Sudan, gwlad sydd yn parhau i brofi gwrthdaro, dadleoliad, ansicrwydd bwyd ac effeithiau dwys yr argyfwng hinsawdd. Mae dros 7 miliwn o bobl – hanner y boblogaeth – yn wynebu newyn a chyfraddau uchel o ddiffyg maeth, ac eto yn anaml byddwn yn clywed sôn yn y penawdau.

Ymunwch â ni i glywed yn uniongyrchol gan James am:

  • Argyfwng dyngarol mwyaf difrifol ein hoes a sut mae ein partneriaid lleol yn ymateb.

  • Effaith yr argyfwng hinsawdd a’r El Niño ar deuluoedd a’r prosiectau sydd yn cynnal gobaith.

  • Sut mae cymunedau yn Ne Sudan yn croesawu a chefnogi ffoaduriaid o Sudan.

  • Rôl pobl ifanc, arweinwyr ffydd a phartneriaid fel Cyngor Eglwysi De Sudan yn y gwaith heddwch a chymod.

  • Gwaith ein partneriaid yn cefnogi pobl i adeiladu gwytnwch, ymateb i argyfyngau a chreu newid cynaliadwy.

I canfod mwy ac i dderbyn manylion i ymuno, plîs dilynnwch y ddolen i cofrestru.

Daw’r cyfarfod hwn dan ofal Cymorth Cristnogol Cymru, mewn partneriaeth â Cyfiawnder Hinsawdd Byd-eang Cymru.