Newyddion

Ymweliad o Dde Sudan | A visit from South Sudan

Dewch i gwrdd ag un o bartneriaid Cymorth Cristnogol o Dde Sudan i glywed storiâu o obaith a gwytnwch mewn cyd-destun argyfyngus.

18-21 Hydref bydd Angelina Nyajima o Hope Restoration South Sudan yn Ne Cymru. Mae ‘na sawl cyfle cyffrous gennym i glywed ganddi!
📅 18-21 Hydref 📍Abertawe 📍Penybont 📍Caerdydd
🌍 Cawn hefyd gwmni ffrindiau Cymru-Sudan, Israa Mohammad, Cadeirydd Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru, a Safa Elhassan AS Cymru dros Gŵyr Abertawe a mwy!

A wnewch chi ymuno â ni? A wnewch chi rannu’r cyfle gyda ffrindiau, teulu a’r cwrdd?