Newyddion

Annwyl ffrindiau, 

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol (1-8 Awst) yn agosáu, mae tîm Cymorth Cristnogol Cymru yn paratoi i groesawu ymwelwyr i Babell Cytûn ar y Maes. Os ydych chi’n ymweld â’r Eisteddfod, byddem wrth ein bodd yn eich gweld. Yn y cyfamser, dyma grynodeb byr o’r hyn sydd ar y gweill yn y misoedd nesaf. Os ydych chi’n cynllunio rhywbeth ar gyfer yr Hydref, cysylltwch â ni.

Cynhaeaf o Obaith: Rydym yn eich gwahodd i glywed stori Anok, sy’n wynebu heriau dyddiol o ran bwydo ei theulu. Mae’r adnoddau yn cynnwys Trefn Gwasanaeth a cherdyn rysait Cawl Okra blasus – hefyd ambell eitem defnyddiol ar gyfer eich gweithgaredd Cynhaeaf! Harvest Appeal 2026 | Christian Aid

Addysg nid Dyled: Tybed beth oeddech chi am fod pan oeddech chi yn yr Ysgol? Yma yn y DU mae plant ac athrawon yn edrych ymlaen ac yn dechrau paratoi i fynd yn ol i’r ysgol ym mis Medi, tra bod miliynnau o blant dros y byd yn cael ei amddifadu o addysg a’u breuddwydion am y dyfodol oherwydd diffyg mynediad i addysg oherwydd yr argyfwng dyled byd-eang. Restore MP Resources – Christian Aid

Ymunwch gyda ni i dynnu sylw ein gwleidyddion i’r angen am newid yn y ddeddfwriaeth ar fenthycwyr arian barus.

Amser i Weithredu: dydd Mawrth 4ydd Awst Pabell Cytûn – Mae’r Glymblaid Heddwch Cyfiawn yn dod ag eglwysi a mudiadau Cristnogol ynghyd ar draws y DU i ymateb i’r alwad gan Gristnogion Palesteina ar i’r eglwys fyd-eang ymateb nid mewn tawelwch neu anobaith, ond gyda dewrder, trugaredd, a gweithred. Ymunwch â ni i ddarganfod sut y gall eich eglwys gymryd rhan. Home – Just Peace Coalition

Hoffem hefyd eich hysbysu am

  • Wylnos Hawlio Heddwch Eisteddfod 2026 – Cofio dioddefwyr holl ryfeloedd heddiw am 6yh yn Encil
  • Nos Sul 2il Awst
  • Yr Ardd Gerfluniau

Rydym yn gobeithio y byddwch yn galw heibio i’n gweld yn pabell Cytûn ar y Maes. Os nad – byddai’n wych clywed sut mae pethau’n mynd yn eich eglwys ac a allaf eich cefnogi mewn unrhyw ffordd.