Y mae gweinidogaeth ein Canolfannau wedi bod yn agwedd allweddol o gefnogi a hyrwyddo ein gweinidogaeth a’n cenhadaeth dros y blynyddoedd. Yn ystod y cyfnod, mae’r ddwy Ganolfan wedi esblygu o ran y weinidogaeth honno. Yr ydym yn diolch i Dduw am y llefydd arbennig yma, am y bobl arbennig sydd wedi bod yn arwain, ac uwchlaw pob dim, am y bendithion trawsnewidiol sydd wedi llifo inni drwyddynt. Yn dilyn adolygiad gan Adran y Gweinidogaethau, yr ydym wedi cytuno i barhau i weld ein gweinidogaeth yn ymateb i newid o fewn Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ac i newid o’n hamgylch.
Fel ymateb i’r newid hwnnw, mi fyddwn yn diogelu perchnogaeth safle Trefeca, safle sydd o arwyddocâd hanesyddol i’r Enwad fel ag i Gymru a thu hwnt. Byddwn yn gwneud hynny drwy adnabod grwpiau / partneriaid fydd yn gyfrifol am waith a gweinidogaeth o ddydd i ddydd y Ganolfan. Er y bydd lefel ein buddsoddiad ariannol fel Enwad yn dirwyn i ben dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn gweithio gydag eraill i ddiogelu fod y llecyn arbennig hwn o dir a’i dreftadaeth gyfoethog yn parhau i wasanaethu fel atgof byw o’n gorffennol, ac fel safle sy’n dod a bywyd, yn le i orffwys, encilio, trafod a dysgu ar gyfer ein heddiw wrth inni edrych ymlaen at yfory.
Mi fyddwn yn parhau i gyllido y gwaith allweddol a bendithiol sydd yn digwydd yn Coleg y Bala dros y tair blynedd nesaf. Yn ystod y cyfnod, tra yn diogelu lefel ein buddsoddiad ariannol yn ein gweinidogaeth i blant, ieuenctid ag oedolion iau, mi fyddwn yn edrych i sicrhau ein hawydd i roi cyfle i’r grwpiau hyn ddod at ei gilydd, mewn canolfannau eraill yng Nghymru. Byddwn yn cychwyn trafodaethau i weld pa bartneriaid eraill fyddai â diddordeb yn y safle yn y tymor hir, gan weithio tuag at ddirwyn ein buddsoddiad ariannol blynyddol yn y Ganolfan i ben ar ddiwedd 2024.