Newyddion

Fe gyfarfu Bwrdd Ymddiriedolwyr Cyngor y Genhadaeth FydEang (CWM) yn Singapore ar 11–12 Tachwedd. Agorwyd y cyfarfod gan Lywydd CWM, Dr Natalie Lin, gyda myfyrdod ar Salm 33, sy’n pwysleisio cyfiawnder a natur arhosol cenhadaeth Duw. Ymysg y penderfyniadau allweddol oedd i’r Bwrdd dderbyn a chefnogi datganiad yn mynd i’r afael â’r argyfwng dyngarol sy’n dwysáu yn y Dwyrain Canol.

Mae CWM yn bartneriaeth fyd-eang o 32 o eglwysi Cristnogol sydd wedi ymrwymo i rannu eu hadnoddau mewn arian, pobl, doniau a gweledigaeth er mwyn cyflawni cenhadaeth Duw yn lleol. Mae’n cynnwys pedwar enwad yng Nghymru, sef Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig a’r Ffederaliaeth Gynulleidfaol.

Mae Cyngor y Genhadaeth Fyd-eang (CWM) yn bryderus iawn am y gwrthdaro parhaus yn y Dwyrain Canol a’r trais cynyddol sy’n effeithio ar Gaza a Libanus. Yn drist iawn, mae’r gwrthdaro hwn wedi hawlio bywydau dros 51,000 o Balesteiniaid yn Gaza a dros 2,000 yn Libanus, ac mae tua dwy filiwn o drigolion Gaza wedi’u dadleoli, yn ogystal â miliwn o drigolion Libanus. Mae’r dinistr i fywydau, cartrefi, a seilwaith hanfodol yn ein tristáu’n fawr, ac yn galw am weithredu di-oed ar sail tosturi, cyfiawnder, ac egwyddorion dyngarol.

Ar ben hynny, rydym yn bryderus iawn am y newidiadau yng ngwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau a thawelwch parhaus gwledydd eraill ledled y byd yn wyneb yr hil-laddiad sy’n datblygu yn Gaza. Rydym yn cefnogi’r holl bobl ddiniwed y mae’r argyfwng hwn yn effeithio arnynt—yn enwedig y rhai yn Gaza, Libanus, a hyd yn oed Israel—sydd wedi cael eu dal yn y don hon o ddioddefaint a cholled. Mae pob math o drais, boed yn gyrchoedd awyr, yn ymosodiadau gan rocedi, neu’n ymosodiadau ar lawr daear, yn golygu bod y dioddefaint yn parhau a chylch y boen a’r dinistr yn cael ei ymestyn.

 ■ Rydym yn galw am gadoediad ar unwaith rhwng pob ochr a blaenoriaethu’r elfennau dyngarol trwy ganiatáu i gymorth gyrraedd Gaza a Libanus yn ddirwystr. Mae sicrhau’r mynediad uniongyrchol hwn at gymorth hollbwysig – bwyd, dŵr, cyflenwadau meddygol, a lloches – yn hanfodol ar gyfer diogelu bywyd a lleddfu dioddefaint niferoedd mawr o bobl ddiniwed.

■ Rydym yn annog pawb sydd ynghlwm â’r sefyllfa—Israel, Hamas, Hezbollah, ac eraill—i ymrwymo i siarad a thrafod fel yr unig lwybr ymarferol tuag at heddwch parhaol a diogelu bywydau.

■ Rydym yn condemnio’r Unol Daleithiau a llywodraethau gwledydd Ewrop yn gryf oherwydd eu cefnogaeth mewn arfau i Israel. Trwy gyflenwi arfau soffistigedig heb oruchwyliaeth lem, mae’r cenhedloedd hyn â rhan yn y dioddefaint a’r dinistr parhaus a wynebir gan bobl gyffredin dirifedi yn Gaza a Libanus.

■ Rydym yn galw am atal trosglwyddo arfau o’r fath ar unwaith ac yn annog y llywodraethau hyn i ganolbwyntio yn hytrach ar hyrwyddo heddwch a sefydlogrwydd drwy ddulliau diplomyddol.

■ Rydym yn condemnio cyfryngau’r Gorllewin am eu hadroddiadau rhagfarnllyd, eu sylw dethol i ddigwyddiadau, a’u naratifau camarweiniol, sy’n aml yn fframio neu’n trin y sefyllfa mewn modd sy’n cuddio’r cymhlethdodau hanesyddol a chymdeithasol-wleidyddol dyfnach.

■ Rydym yn eu condemnio am ledaenu stereoteipiau am Balesteiniaid a chyfiawnhau’r trais. Mae eu methiant i gyfleu safbwyntiau cytbwys sy’n amlygu dioddefaint pobl ddiniwed neu herio deinameg grym yn eu gwneud yn rhan annatod o gyflawni’r trais.

■ Rydym yn galw ar y Cenhedloedd Unedig a sefydliadau rhyngwladol eraill i ddwysáu eu cynlluniau heddwch trwy ddefnyddio’u dylanwad i gynnull yr holl randdeiliaid perthnasol at ei gilydd a hwyluso datrysiad ystyrlon a pharhaol i’r gwrthdaro parhaus hwn.

Yn ogystal, rydym yn annog y gymuned fyd-eang yn gryf i gynnal undod wrth ddarparu cymorth dyngarol, gan flaenoriaethu ymdrechion diplomyddol sy’n meithrin heddwch ac yn diogelu bywydau poblogaeth fregus y Dwyrain Canol.

Anogwn arweinwyr Cristnogol i godi eu llais ynghylch yr anghyfiawnderau sydd yn y Dwyrain Canol a sefyll yn erbyn pob ffurf ar Seioniaeth Gristnogol. Galwn ar eglwysi a chymunedau ffydd ledled y byd i ymuno â ni mewn gweddi am heddwch, cyfiawnder, a chymod yn y rhanbarth hwn.

Gweddïwn hefyd dros ddioddefwyr y gwrthdaro hwn, yn enwedig y merched, y plant, a’r rhai mwyaf agored i niwed, y byddant yn gallu goresgyn y trychineb hwn a chanfod cysur yng nghanol y cythrwfl. Wrth i Gristnogion baratoi at dymor yr Adfent, cawn ein hatgoffa o’i neges ddofn o heddwch a bywyd. Mae’r amser cysegredig hwn yn galw arnom i fod yn dangnefeddwyr mewn byd sy’n llawn gwrthdaro ac i feithrin gobaith am ddyfodol lle mae heddwch yn teyrnasu.

Rydym yn parhau’n gadarn ein cred fod heddwch yn bosibl trwy dosturi ac undod, hyd yn oed o fewn y rhaniadau dyfnaf. “Hyn yw trugaredd calon ein Duw – fe ddaw â’r wawrddydd oddi uchod i’n plith, i lewyrchu ar y rhai sy’n eistedd yn nhywyllwch cysgod angau, a chyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.” (Luc 1:78–9)