Newyddion

Mi fydd nifer ohonoch wedi bod yn dilyn y newyddion diweddaraf, yn arbennig cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw. Yr wyf am nodi, ag eithrio fod y gofyn i wisgo mwgwd gwyneb mewn oedfa bellach yn orfodol, nid oes dim am y rheoliadau newydd sy’n effeithio ar y canllawiau sydd ar ein gwefan yma https://www.ebcpcw.cymru/cy/paratoi/ . Yr ydym wedi cysylltu eisoes gyda eglwysi yng Nghyngor Caerffili, a maent wedi derbyn cyngor sy’n berthnasol iddynt hwy yn unig.