Annwyl Gyfeillion
Yr wyf yn atodi i’r neges hon ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar addoli yn ein heglwysi. Fel yr ydych wedi deall mae’n siŵr, mae’r newid pennaf yn ymwneud â caniatâd i ganu yn y gynulleidfa, boed o dan do neu yn yr awyr agored. Wedi nodi hyn, mae’n bwysig diweddaru eich Asesiad Risg, gan gymryd sylw yn arbennig o’r canllawiau mewn perthynas â lefel y canu, agosrwydd at gantorion eraill ayb. Yr ydym yn ddiolchgar am y rhyddid newydd hwn, ond yn pwysleisio eto ein cyfrifoldeb i wneud yr hyn a fedrwn i ddiogelu eraill rhag ledaeniad y feirws yma. Ymhellach, gan fod y canllawiau newydd hyn i’w hymarfer yn ddelfrydol mewn ardaloedd lle y mae cyfradd presenoldeb y feirws yn y gymuned yn llai na 50 mewn 100,000 o bobl, dylech ystyried cyfyngu ar y rhyddid hwn os yw y ffigyrau yn fwy yn eich ardal chwi. Medrwch ddod o hyd i lefel cyfredol heintio y boblogaeth drwy ymweld â safle Iechyd Cyhoeddus Cymru – https://public.tableau.com/app/profile/public.health.wales.health.protection/viz/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary (O glicio ar ‘Cases by MSOA’ ac yna dewis ‘7 day rolling average) Rydym yn ymwybodol fod hyn yn golygu addasu fel y mae sefyllfa yn newid, ond hefyd yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau i eraill.
Dyma’r linc i ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru:
https://llyw.cymru/canllawiau-ar-ailagor-mannau-addoli-coronafeirws-html
Yn rhwymau’r efengyl
Marcus Robinson
Llywydd y Gymanfa Gyffredinol
Meirion Morris
Ysgrifennydd Cyffredinol