Newyddion

Diweddariad i’r eglwysi, gweinidogion a gweithwyr
Dydd Gwener y 12fed o Fawrth 2021

Annwyl gyfeillion,

Yn dilyn cyhoeddiad diweddaraf Prif Weinidog Senedd Cymru heddiw, yr ydym yn tybio ei bod yn amserol i anfon gair atoch gyda golwg ar y sefyllfa gyfredol o fewn y Cyfundeb. Fel y gwyddoch
efallai, mae’r rhan fwyaf o’n heglwysi yn parhau i beidio cyfarfod wyneb yn wyneb, er fod nifer cynyddol yn cyfarfod yn rhithiol, a nifer eto sy’n darlledu oedfaon, yn cynnal oedfaon dros y ffôn,
neu yn anfon deunydd defosiynol allan i’w haelodau.

Yr ydym yn diolch am y gweithgarwch hyn, er yn cydnabod fod yna ddyhead ymhlith amryw i ddychwelyd i gyd-gyfarfod yn ein hadeiladau. Nid oes gennym wybodaeth am safbwynt y rhan fwyaf o’n haelodau a’n harweinwyr am y priodoldeb o ystyried ail-afael mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb, a thebyg fod yna amrywiaeth barn eang. Mae nifer yn ofidus iawn am gymryd cam o’r fath, a nifer wedi penderfynu eisoes na fyddant hwy yn bersonol yn gweld hyn fel cam diogel nes y byddant wedi derbyn dau ddos o’r brechlyn. Anodd mesur hefyd faint o’n haelodau sydd wedi cyfarwyddo bellach, ac yn elwa o wasanaethau rhithiol i’r fath raddau fel nad oes brys arnynt i ddychwelyd, yn enwedig os yw dychwelyd yn golygu dychwelyd i bethau fel ag yr oeddent cyn y cyfnod hwn. Mae’r cyngor geir gan Lywodraeth Cymru yn parhau i fod yn nodi – Lle bo’n ymarferol ac yn rhesymol, dylid osgoi cyfarfodydd wyneb yn wyneb er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo’r feirws.

Wedi dweud hyn i gyd, yr ydym yn credu, gan fod ein llythyr diwethaf wedi annog ein heglwysi i beidio cyfarfod, er fod rhyddid cyfreithiol i wneud hynny, y dylem anfon gair i’ch gwahodd i ystyried os yw tymor y Pasg yn cynnig cyfle i gyd-ymgynnull eto. Ein barn yw y dylai gweinidogion a/neu blaenoriaid roi amser i drafod a meddwl drwy hyn yn weddigar, wrth inni nesáu at brif Ŵyl ein calendr eglwysig. Ymhellach, gan fod y Llywodraeth yng Ngymru yn rhagweld codi y cyfyngiad ar deithio ar y 27ain o Fawrth, credwn fod hyn yn arwyddo hyder gan y Llywodraeth fod posibilrwydd fod yna le i wneud mwy wrth i’r gwanwyn agosáu. Mi fydd unrhyw gam i ail-agor yn gwbl ddibynnol ar gytundeb rhwng y gweinidog a/neu y blaenoriaid, ac yn mynnu asesiad risg trylwyr.

Gan ein bod wedi cyfeirio at y 27ain o Fawrth, fe fydd nifer o’n heglwysi am ystyried y priodoldeb hefyd o osod posteri, neu ddiweddaru posteri ar fynedfeydd mynwentydd. Dylai’r wybodaeth
bwysleisio fod pawb sy’n ymweld yn parchu rheolau am gadw pellter os ydynt yno tra bod eraill yno. Mae’n Sul y Blodau ar y 28ain, a bydd nifer yn awyddus i ymweld â’r safleoedd hyn. Mae perffaith ryddid i wneud hynny yn awr os yw’r fynwent yn ‘lleol’, a thebyg, os caniateir teithio o fewn Cymru ar y 27ain y bydd mwy yn dymuno ymweld.

Yn rhwymau’r efengyl,

Parch Brian Huw Jones, Parch Marcus Wyn Robinson a Parch Meirion Morris.