Mae Dydd Gweddi’r Byd yn fudiad byd-eang a arweinir gan ferched Cristnogol o draddodiadau amrywiol, sy’n ein galw i ddod ynghyd ar y dydd Gwener cyntaf ym mis Mawrth i weddïo.
Mae dros 120 o wledydd yn cymryd rhan mewn diwrnod blynyddol o ddathlu sy’n uno pobl o bob hil, diwylliant a thraddodiad wrth rannu Gair Duw ac addoli.
Paratowyd gwasanaeth Dydd Gweddi’r Byd 2026 gan grŵp ecwmenaidd o ferched Cristnogol o Nigeria. Yn y gwasanaeth, mae’r merched hyn yn canolbwyntio ar wahoddiad Iesu yn Mathew 11:28–30, gan ein galw i ddod yn agos at Dduw a chael gorffwystra ynddo. Mae storïau pedair merch o Nigeria yn ein hysbrydoli i weithio tuag at fyd heb anghyfiawnder, ansicrwydd, bod ar y cyrion, erledigaeth grefyddol, tlodi ac anobaith. Wrth inni ymddiried yn Nuw, yr un sy’n cario ein beichiau, cawn dderbyn gorffwystra a cael nerth i’w rannu gyda’r byd.
Os hoffech mwy o wybodaeth am gynnal gwasanaeth yn eich capel cysylltwch â’r ysgrifenyddion eirian.roberts@ebcpcw.cymru neu sarah.morris@ebcpcw.cymru