Mae Capel Tudweiliog wedi dilyn syniad Gofalaeth Pwllheli!
Beth am i chi roi baner o flaen eich capel?
Pam y dyluniad hwn?
- Cyfleu cariad yr Arglwydd nid Ei farn. Gobeithiwn bydd pobl ar ôl y cyfnod hwn yn gweld y gras a ddangosodd y capel tuag at eu cymdeithas.
- Lliwiau’r enfys – dangos undod â GIG.
- Ennill yr enfys yn ôl!
Mae cyfeiriad Facebook y capel hefyd ar y faner.
Prynwyd y faner o www.bannerworld.co.uk/.
Pris: e.g. un faner 8 ’x 2’ gyda hem wedi’i atgyfnerthu am £54 + TAW + postio OND gallwch brynu tair baner (yn defnyddio’r un templed) am £60 + TAW + postio!
Gallaf roi’r templad i chi. Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n ymweld â’r safle lle rydych chi’n bwriadu gosod y faner, er mwyn cael yr union fesuriadau!
Ffoniwch neu e-bostiwch am fwy o wybodaeth. [email protected]