Newyddion

Gair gan Cyngor Ysgolion Sul ar ddechrau 2026

Wrth edrych ymlaen at 2026, tybed a oes yna gynlluniau ar y gweill i ymestyn allan yn genhadol i gyhoeddi’r newyddion da yn ein cymunedau?

Oes yna ddarpariaeth gwaith plant ac ieuenctid yn eich gofalaeth / bro? Os nad, tybed oes na gyfleon newydd yn cynnig eu hunain i chi? Yn dilyn cyhoeddi adroddiad Y Diwygiad Tawel yn ystod 2025, tybed sut fedrwn ni estyn gwahoddiad i deuluoedd yn ein hardal i ymgysylltu â’r eglwys.

Cofiwch bod Cyngor Ysgolion Sul yno i’ch cefnogi.

Yn atodedig mae dolen i 2 gyhoeddiad newydd gennym, sef ein bwletin Cysylltiad ar gyfer 2026, sy’n crynhoi ein darpariaeth diweddaraf i eglwysi ac Ysgolion Sul Cymru, ac hefyd ein catalog adnoddau rhyngweithiol sydd wedi ei ddiweddaru i gynnwys holl gyhoeddiadau 2025 a hefyd rhai o lyfrau newydd 2026 sydd ar y ffordd yn fuan. Cliciwch ar y dolenni isod i gael mynediad iddynt.

CYSylltiad 2026:

https://ysgolsul.com/…/uploads/2025/12/CYSylltiad-2026.pdf

Catalog Llawn Diweddaraf:

https://ysgolsul.com/…/Catalog-llawn-C-Gair-Rhagfyr…

Mae ein 5 gwefan hefyd yn cael eu diweddaru yn gyson, yn llawn gwybodaeth a chanllawiau:

www.ysgolsul.com

Mae adrannau newydd diweddar yn cynnwys canllawiau ar gyfer gweddïo gyda phlant, darllen y Beibl a gwaith ysgolion.

www.gobaith.cymru

Mae dros 30 o emynau newydd wedi eu ychwanegu i’r wefan yn ystod 2025, a nifer eto i ymddangos yn fuan. Cofiwch os ydych yn cyfansoddi neu yn cyfieithu emynau cyfoes – gyrrwch nhw atom er mwyn i ni eu hawdurdodi gan yr awduron gwreiddiol a hefyd eu gosod ar y wefan.

www.cristnogaeth.cymru

Mae’r adrannau gwybodaeth newydd yn cynnwys adrannau ar gefnogi gwaith cefn gwlad, canllawiau dementia, ffydd a chwaraeon a newid hinsawdd.

www.beibl.net

Mae hon yn parhau yn wefan brysur a phoblogaidd gyda channoedd o ymwelwyr yn wythnosol.

www.gair.cymru

Mae llinell amser newydd wedi ei ychwanegu sydd ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim, ynghyd â 12 pecyn gwerslyfrau newydd yn y gyfres Y Gwir Ffordd.

Cofiwch gysylltu os fedrwn fod o gefnogaeth i’ch gweinidogaeth a’ch cenhadaeth.

Gan ddymuno bendith Duw ar weithgarwch y flwyddyn newydd.

Aled Davies,   Cyfarwyddwr/Director
Cyngor Ysgolion Sul / Cyhoeddiadau’r Gair