Newyddion

 Newyddion Eglwys Bresbyteraidd Cymru

5 Rhagfyr 2024

I’w rhyddhau ar unwaith

Henaduriaeth Conwy a Dyfrdwy yn galw am heddwch cyfiawn yn y Dwyrain Canol.

 

Mae Henaduriaeth Conwy a Dyfrdwy, rhan o Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yn galw ar lywodraethau Prydain I geisio heddwch cyfiawn yn y Dwyrain Canol.

Mae’r sefyllfa yn mynd o ddrwg i waeth ac yn fater o bryder mawr. Mae bywyd pobl gyffredin ar Lain Gaza, bellach yn erchrydus. Mae cannoedd o filoedd wedi colli eu cartrefi ac heb unman i ffoi. Ar ben hynny, mae rhwystro cymorth dyngarol yn golygu eu bod heb fwyd na dwr am ddyddiau.

I sicrhau nad oes trychineb o filoedd lawer mwy yn colli eu bywydau, mae gofyn i Lywodraethau Prydain wneud pob dim posibl i geisio heddwch a chyfiawnder yn y rhanbarth.

 Mae angen:-

  • cadoediad ar fyrder er mwyn arbed bywydau pobl diniwed

  • sicrhau bod rhwydd hynt cymorth dyngarol allu cyrraedd yr anghenus heb rwystr

  • rhoi pwysau i sicrhau fod y gwystion sy’n cael eu dal yn gaeth yn cael eu rhyddhau, a

  • gwneud pob dim posibl i hyrwyddo’r broses o geisio heddwch cyfiawn a parhaol yn y rhanbarth

 O Dduw, gweddiwn am heddwch yn ein byd.

Diwedd

Am wybodaeth i’r cyfryngau a chyfweliadau, cysylltwch â Gethin Russell-Jones, swyddog y wasg, Eglwys Bresbyteraidd Cymru 07378 309268