Galwad olaf: Ceisiadau ar gyfer Hyfforddiant Mewn Cenhadaeth / Training in Mission (TIM) – Diploma mewn Astudiaethau Cenhadol 2025
Wyt ti’n credu dy fod ti’n cael dy alw gan Dduw i gymryd rhan mewn hyffordiant Cristnogol ffurfiannol sy’n cyfrannu at ymwneud gydol oes yng nghenhadaeth Duw drwy’i eglwys?
Wyt ti’n agored i weledigaeth ehangach, ymroddiad dyfnach, ac awydd cryf gennyt i weithio mewn tîm ac i bartneru gyda Christnogion eraill ar draws y byd, yn arbennig drwy’r Eglwysi sydd yn perthyn i CWM?
Rydym yn dy wahodd i wneud cais ar gyfer Rhaglen Hyfforddi Mewn Cenhadaeth (TIM) – Diploma mewn Astudiaethau Cenhadol, a fydd yn cael ei gynnal o ddiwedd Ebrill hyd Tachwedd 2025. Mae’r ceisiadau i fod mewn erbyn 28ain o Chwefror.
Ers dros 40 mlynedd bellach, bu’r rhaglen TIM yn rhan o ymdrechion CWM i rymuso pobl ifanc ar gyfer cenhadaeth a gweinidogaeth eu heglwysi tra’n cynyddu gallu’r eglwys i fod yn tystio’n gyhoeddus. Ymysg mentrau eraill, mae TIM yn grymuso cenhedlaeth newydd o arweinyddion gyda dealltwriaeth ymarferol a radical o’r hyn mae tystio i Grist yn ei olygu.
Mae TIM yn cynnig cyfleon ar gyfer ieuenctid rhwng 18 a 30, yn ddibriod, ac heb fod wedi eu hordeinio, i fod ar raglen 6-mis-a-hanner fyddai’n golygu dilyn cwrs dwys o ddysgu am genhadaeth mewn theori ac yn ymarferol, ymweliadau â lleoliadau arbennig, prosiectau heriol, a gwaith fydd angen torchi llewys ar ei gyfer mewn nifer o gyd-destunau.
Bydd y rhai sy’n cwblhau gofynion yr asesiad o’r Rhaglen TIM yn derbyn Diploma mewn Astudiaethau Cenhadol. Bydd hwn yn gymhwyster fydd yn cydnabod doniau arweinyddol mewn cenhadaeth ac addysg er mwyn ehangu cyfleon i ganfod gwaith neu i weithio yn wirfoddol.
Mae’r eglwysi sy’n perthyn i CWM ar draws y byd, gan gynnwys yma yng Nghymru (EBC, UAC, a’r EDdU) a phartneriaid eciwmenaidd yn elwa o’r meithrin yma ar bobl addas gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i fod yn arwain yn llwyddiannus mewn ystod eang o agoriadau cenhadol.
Lawrlwythwch Brîff y Rhaglen yma.
lawrlwythwch y Ffurflen gais yma.
Am ragor o wybodaeth, ebostiwch empowerment@cwmission.org. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 28 Chwefror 2025.
