Dyma anfon ein cyfarchion atoch yn ystod y cyfnod unigryw hwn, gan weddïo eich bod yn cadw yn ddiogel. Yr ydym yn byw mewn dyddiau dieithr iawn, ac mae hyn yn wir i’n heglwysi wrth inni geisio dirnad ein galwad, a ffordd wahanol iawn o fod yn eglwys dros yr wythnosau yma. Yn naturiol, yr ydym yn cofio’n arbennig yn ein gweddïau y rhai hynny sydd yn byw gydag ofn, yn wynebu ansicrwydd, y rhai sy’n glaf, y rhai sy’n galaru. Yr ydym yn cofio hefyd am y rhai sydd ar flaen y gad mewn ysbyty, mewn cartref gofal, mewn gwasanaethau angenrheidiol eraill, ac yn diolch am bob cyfle a gawn i gefnogi eu hymdrechion. Fel chwithau, yr ydym fel Swyddogion hefyd yn awyddus i ymateb i geisiadau am gefnogaeth frys pan ddaw rhai i law. Dylid cyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Cyffredinol.
Yr ydym yn anfon y gair hwn, y cyntaf o amryw mae’n debyg, i dynnu eich sylw at faterion cyfredol y tybiwn y bydd o gymorth ichwi. Mae ein gwefan yn cynnwys diweddariadau cyson, fel ein ffrwd wybodaeth ar Facebook ac ar ein cyfrif trydar. Cofiwch roi gwybod inni am unrhyw wybodaeth am eich gwaith a’ch gweinidogaeth y medrwn ei rannu â eraill.
Y Cyfraniad Gweinidogaeth a Chenhadaeth
Mewn cyfarfod diweddar o Swyddogion y Gymanfa, trafodwyd y priodoldeb o geisio ymateb yn y tymor byr i effaith y cyfnod hwn ar ein heglwysi, ac yn benodol ar hyfywedd ariannol yr eglwysi. Cytunwyd yn y cyfarfod hwnnw y byddem yn rhoi ad-daliad i’r eglwysi cyfwerth a 25% o’r Cyfraniad Cyfundebol am y chwarter Ebrill i Gorffennaf. Yn ymarferol, mi fydd eglwysi sydd wedi talu drwy’r banc neu wedi anfon siec yn cael ad-daliad o’r Swyddfa ddiwedd mis Mai. Yn achos yr eglwysi hynny sydd heb anfon eu cyfraniad am y chwarter cyfredol, byddwn yn rhoi credyd cyfwerth a 25% o werth eich cyfraniad am y chwarter yn erbyn eich ôl-ddyled. Byddwn yn anfon ebost pellach at Drysoryddion yr eglwysi ddiwedd yr wythnos hon i gychwyn trafodaeth gyda’r eglwysi ar eu rhagolygon ariannol yn lleol. Disgwyliwn gynnwys yr ymateb mewn cyfarfod pellach o Swyddogion y Gymanfa ddiwedd Mai fydd yn ein cynorthwyo i ystyried sut i weithredu ymhellach gyda golwg ar eich sefyllfa ariannol.
Clefyd y Lleng Filwyr (Legionnaires)
Mae’n bosibl y bydd cynydd yn y risg o Glefyd y Llengfilwyr mewn systemau dŵr oherwydd yr hinsawdd sydd ohoni. Mae’r rhan fwyaf o gapeli yn cael eu hystyried yn risg isel oherwydd y gosodiadau dŵr syml. Argymhellir, pan ailagorir capeli, bod y systemau dŵr poeth ac oer yn cael eu fflysio drwodd â dŵr prif gyflenwad ffres am gyfnod o 5 munud. Efallai y bydd angen glanhau â diheintydd ar gapeli mwy ac yn ein dwy Canolfan, sydd â systemau mwy cymhleth, fel dŵr oer wedi’i storio a chawodydd. Argymhellir eu bod yn cael eu harchwilio gan blymwr cymwys. Os yw’n bosibl ymweld â’r adeiladau yn ystod y cyfnod cau i lawr, yna dylai rhedeg dŵr trwy’r system boeth ac oer am 5 munud unwaith yr wythnos i leihau’r risg yn sylweddol.
Tenantiaeth
Yr ydym yn dymuno atgoffa ein heglwysi, mewn achos lle yr ydych yn gosod eiddo, fod yna reolau ychwanegol wedi eu cyflwyno gan y Llywodraeth dros y cyfnod hwn. Yn syml, ni ellir dirwyn tenantiaeth i ben oherwydd anallu unigolion i dalu ayb. Ymhellach, gofynnwn i eglwysi i fod yn arbennig o ystyriol o denantiaid sydd yn gorfod hunan-ynysu, sydd wedi gweld gostyngiad yn eu hincwm, neu sydd allan o waith yn ystod y cyfnod.
Gwaith ar safle yr eglwys
Yn unol â’r rheolau mewn perthynas â gweithio yn ystod y cyfnod hwn, fe all eglwysi barhau i wneud gwaith angenrheidiol ar yr adeiladau a’r tiroedd lle y mae sylw digonol yn cael ei roi i ymbellhau cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys torri mynwentydd ayb.
Yswiriant ar Eiddo – Congregational and General
Yr ydym wedi derbyn cyfarwyddyd gan y cwmni, yn achos yr eglwysi sydd yn yswirio drwy’r cwmni hwn, nad ydynt bellach yn mynnu y dylai rhywun ymweld yn wythnosol â’r adeilad pan nad yw yn cael ei ddefnyddio dros y cyfnod hwn. Wedi nodi hyn, ac yn dilyn nifer o achosion diweddar, yr ydym yn pwysleisio y dylech wneud pob ymdrech i sicrhau diogelwch yr eiddo, ac, os yn bosibl, i beidio â chadw offer electroneg symudol, neu offer arall sydd yn werthfawr ac y gellir eu symud, mewn adeilad gwag.
Fel y nodwyd ar y cychwyn, byddwn yn parhau mewn cyswllt dros y cyfnod hwn, ac yn sicr yn eich cynnwys mewn unrhyw drafodaeth wrth geisio dirnad ein ffordd ymlaen. Apeliwn arnoch chwithau i gadw mewn cyswllt, ac i rannu unrhyw gwestiynau neu sylwadau â ni.
Yn rhwymau’r efengyl,
Parch Marcus Robinson – Llywydd
Parch Meirion Morris – Ysgrifennydd Cyffredinol