Newyddion

Eglwys Bresbyteraidd Cymru

08 07 24

Newyddion i’w Rhyddhau Ar Unwaith

Gymanfa Cyffredinol yn Aberystwyth, 8-9 Gorffennaf 2024

‘Rydyn ni mewn hwyliau da’ meddai’r Llywydd

Cynhelir Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru (EBC) yn Aberystwyth o 8-9 Gorffennaf, 2024.

Er bod presenoldeb eglwysig yn parhau i ostwng ar draws holl enwadau Cymru, mae’r naws yn galonogol.

‘Rwy’n wirioneddol gyffrous,’ meddai Llywydd yr EBC, y Parch Aneurin Owen. ‘Mae gennym ni straeon i’w hadrodd am brosiectau beiddgar ac uchelgeisiol yng Nghymru a thu hwnt. Nid amser i grebachu’n ôl yw hwn ond i ddangos ein hyder yn Nuw pob gobaith.’

Bydd cynulliad blynyddol un o  enwadau anghydffurfiol mwyaf Cymru yn derbyn adroddiadau ar weithgareddau’r flwyddyn ddiwethaf ac yn pasio penderfyniadau allweddol.

Bydd y sesiwn agoriadol nos Lun yn sôn am ddathlu gweinidogaeth yn ei hamrywiaeth.

Bydd y Gymanfa (cynulliad)  yn clywed gan Joseff Edwards, arweinydd prosiect newydd arloesol o’r enw Craig Blaenau ym Mlaenau Ffestiniog. Ers ymgartrefu yn yr ardal ddwy flynedd yn ôl, mae Joseff a’i wraig Lydia gyda chefnogaeth rhai eraill, wedi ffurfio cymuned ffydd sy’n cynnwys plant, pobl ifanc a theuluoedd o’r dref. Gan gyfarfod yng nghanolfan gymunedol y dref, Mae’r teulu bach wedi dechrau’r ysgol Sul cyntaf yn  y dref ers degawdau, gan ddenu dros 60 o blant a phobl ifanc.

Mae prosiect arall sy’n ennill momentwm wedi’i leoli ym Mhontypridd. Mae Parc Arts yn brosiect dan adain EBC, sy’n creu canolbwynt creadigol a pherfformio ar gyfer y cymoedd. Dan arweiniad Jess Morgan, mae Parc Arts ar hyn o bryd yn adnewyddu hen Eglwys Bresbyteraidd y Parc yn Nhrefforest fel lleoliad cyngerdd.

Bydd pryder EBC am gyflwr tref Port Talbot wrth iddo wynebu’r posibilrwydd o gau Gwaith Dur Tata hefyd yn cael ei leisio. Bydd Margaret jones, aelod o’r Henaduriaeth lleol a Banc Bwyd y dref, yn lleisio pryder am les y dref ac yn beirniadu Tata a llywodraeth y DU am eu methiant i ofalu am y miloedd o bobl yr effeithir arnynt.

Mae gan EBC bartneriaethau rhyngwladol hirsefydlog a bydd y rhain yn cael lle amlwg yn y Gymanfa. Bydd Dr Sharon Singsit Evans, meddyg Seiciatryddol, a ddaw yn wreiddiol  o Manipur, Gogledd Ddwyrain  yr India, ond sy’n byw yn y DU erbyn hyn, yn cael ei chyfweld am y gwrthdaro sy’n wynebu pobl ei thalaith.  Amcangyfrifir bod mwy na 148 o Gristnogion wedi eu lladd yn y terfysg a channoedd yn fwy wedi eu hanafu. Ymosodwyd ar bron i 400 o eglwysi, yn ogystal â dros 4,700 o lefydd yn perthyn i Gristnogogion eraill. Ers hynny mae cannoedd lawer o Manipur wedi ffoi o’u cartrefi ac yn byw mewn taleithau cyfagos.

Bydd perfformiadau gan grwpiau rhyngwladol o Madagascar a Mizoram. Bydd Ny Ako yn dod â chynhesrwydd a llawenydd diwylliant Malagasaidd i Aberystwyth fel rhan o’u taith i eglwysi’r enwad yng Nghymru a LLundain. A bydd côr Synod Mizoram yn rhannu eu cariad at Dduw trwy gyfrwng caneuon o fawl yn Mizo, Cymraeg a Saesneg. Mae gan Gymru gysylltiadau agos â’r ddwy wlad. Cyrhaeddodd David Jones a Thomas Bevan, Annibynwyr o Geredigion i Madagascar yn 1820 ar wahoddiad Radama, brenin Madagascar. Fe ddechreuon nhw ysgol ac eglwys a dysgu’r iaith Malagasi wrth iddyn nhw gyrraedd. Nhw gyfieithodd y Beibl cyntaf yn yr iaith, ac yr oedd ei safon lenyddol ac ysgolheigaidd yn enwog trwy Affrica. Mae Cymru a Gogledd Ddwyrain yr India yn rhannu ffydd Gristnogol gyffredin, yn bennaf oherwydd Thomas Jones (1810-1849), y cenhadwr Cymreig cyntaf a aeth gyda’i deulu i Fryniau Casia, a adnebir fel talaith Meghalaya heddiw, ac a oedd y cyntaf o blith canoedd fu’n plannu hadau’r Newyddion Da Cristnogol yno. Mae’r cysylltiad gyda thalaith Misoram yn mynd yn ôl dros 130 o flynyddoedd ers i D.E. Jones o Landderfel ger y Bala fynd yno yn genhadwr yn 1897 ac i’r rhai olaf o Gymru adael yno yn 1967. Yn 2018, cyhoeddodd llywodraeth y dalaith y byddai 22 Mehefin yn cael ei ddathlu fel “Diwrnod Thomas Jones” bob blwyddyn.

Bydd gwesteion yn y noson agoriadol hefyd yn clywed diweddariadau o waith EBC gyda phlant a merched.

Dywedodd y Parch Aneurin Owen: ‘Mae sŵn llawenydd yn ein plith yn rhywbeth i’w gofleidio. Mae’n heintus, ac yn gallu codi’n calonnau, ond rhaid inni adnabod sŵn crio sy’n gymysg ag ef. Ein gweddi yw, hyd yn oed yn ein hiraeth am ogoniant y gorffennol, y bydd sŵn ein wylofain yn cael troi i mewn i sŵn llawenydd wrth weld yr hyn y mae’r Arglwydd yn ei wneud yn ein dydd. Ers Cymanfa 2023, mae naw unigolyn wedi ymateb i alwad yr Arglwydd i ddod i adeiladu ar y sylfeini newydd sydd eisoes wedi’u gosod. Mae chwe swydd newydd wedi’u creu, y rhan fwyaf ohonynt o dan gynllun gweithwyr arloesi. Byddwn yn parhau i feithrin hinsawdd o ddeialog agored a chydweithrediad agos rhyngom ni i gyd. Rydym yn cydnabod yr angen i gefnogi ac amddiffyn ein gweinidogaeth arloesol wrth iddi ddechrau tyfu a datblygu’.

Diwedd

Nodyn i golygyddion:

Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw un o enwadau Cristnogol mwyaf Cymru, gyda rhyw 14,000 o aelodau a thua 475 o eglwysi . A elwir hefyd yn Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd a ‘Y Cyfundeb’, ganed Eglwys Bresbyteraidd Cymru allan o ddiwygiad Methodistaidd y 18fed ganrif.

Lluniau atodedig: Parch Aneurin Owen, Dr Sharon Singsit Evans, Ny Ako, Cor Synod Mizoram, Joseff Edwards

Am gyfweliadau cysylltwch a Gethin Russell-Jones, Swyddog y Wasg, 07378 309268