Er bod diogelu yn fater i bawb ac mae’n wir fod cyfrifoldeb ar bob un ohonom i helpu i ddiogelu plant ac oedolion bregus, y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod yr eglwys yn cyflawni ei chyfrifoldebau diogelu ac yn dilyn y polisi diogelu yw penodi Cydlynydd Diogelu.
Mae’r Panel Diogelu yn rhedeg hyfforddiant 2.5 awr yn canolbwyntio ar rôl cydlynydd diogelu a’r elfennau ymarferol y dylai’r eglwys leol rhoi ar waith i sicrhau ei bod nhw’n diogelu grwpiau bregus yn effeithiol.
Bydd y sesiwn yn cynnwys polisi, recriwtio mwy diogel a DBS a chadw cofnodion. Ni fydd ffocws ar arwyddion a symptomau o gam-drin ac esgeulustod. Mae hyn yn cael ei drafod yn fanylach yn y sesiynau lefel 1 a 2.
10/12/25 Bore Mercher ( Saesneg – zoom ) 10-12.30 archebwch yma
21/02/26 Bore Sadwrn (Saesneg – zoom) 9.30-12pm archebwch yma
Gallwch archebu’r sesiynau drwy’r dolenni uchod neu ar dudalen hyfforddiant ein gwefan. https://panel.cymru