Cliciwch yma i ddarllen llythyr gan Llywydd y Gymanfa Gyffredinnol
Hysbysiad am ohirio Cymanfa Gyffredinol 2020
Yn dilyn argymhelliad gan Swyddogion Bwrdd y Gymanfa, mae Pwyllgor Brys tair Talaith y Gymdeithasfa wedi cymeradwyo:
- Y dylid gohirio y cyfarfod yn 2020 yng Nghaernarfon tan 2021. Byddwn yn defnyddio’r un lleoliad.
- Byddwn yn ymestyn tymor y Llywydd presennol hyd at 2021, ac yn gwahodd Bwrdd y Ddarlith Davies a swyddogion Pwyllgor y Gymdeithas Hanes i ohirio eu darlithoedd hwy yr un modd.
- Byddwn yn anelu at gynnal cyfarfod ychwanegol o’r Gymanfa Gyffredinol yn yr Hydref eleni, os y bydd amgylchiadau yn caniatáu i gyflawni gofynion y Comisiwn Elusennau, ac i drafod unrhyw argymhellion ddaw o’r Bwrdd gyda golwg ar y Cyfraniad Gweinidogaeth a Chenhadaeth am 2021, cydnabyddiaeth a chyflogai am 2021, lefel grantiau 2021, ag unrhyw argymhellion brys o’r Adran Gweinidogaethau mewn perthynas â chyflogaeth/cynhaliaeth gweithwyr gweinidogaeth.