Newyddion

Newyddion Eglwys Bresbyteraidd Cymru
14 Chwefror 2025
I’w Ryddhau Ar Unwaith
Lansio Apêl Manipur i Helpu Miloedd o Ffoaduriaid
Mae gennym ni berthynas arbennig gyda phobl gogledd ddwyrain India, ni allwn gerdded i ffwrdd oddi wrth ein cyfrifoldebau, meddai arweinydd yr eglwys
Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru (EBC) wedi lansio apêl ariannol i helpu miloedd o ffoaduriaid sydd wedi’u dadleoli yng ngogledd ddwyrain India. Mae’r apêl yn ymdrech ddyngarol i gefnogi pobol Manipur, India, sy’n wynebu erledigaeth a thrais difrifol. Mae hyn mewn ymateb i’r cynnwrf treisgar a ddigwyddodd ym Manipur ym mis Mai 2023, a arweiniodd at ddinistrio cannoedd o eglwysi, cartrefi, a dadleoli degau o filoedd o bobl. Mae cannoedd o bobl wedi marw ers hynny. Mae llawer o’r ffoaduriaid bellach wedi’u dadleoli mewn gwersylloedd ffoaduriaid mewn gwledydd cyfagos.
Ymwelodd y Parch Nan Powell Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol EBC â gwersyll ffoaduriaid ym Mizoram yn ddiweddar. Roedd y Parch Rebecca Lalbiaksangi, gweinidog Gofalaeth Dwyrain Maldwyn ac sy’n hanu o Mizoram yn gwmni iddi. Mae’r gwersyll hwn, ym mryniau Mizoram, bellach yn gartref i 40 o deuluoedd o Manipur.

Dywedodd Nan Powell Davies: ‘Pan gyrhaeddodd Thomas Jones ogledd ddwyrain India yn y 1840au, pregethodd yr efengyl a gwnaeth addewid difrifol iddynt. Ymroddodd a’i enwad i feithrin perthynas arbennig â hwy. Gwnaeth gyfamod â nhw ac ni allwn gerdded i ffwrdd oddi wrthynt yn eu hawr o angen.
‘Mae’r bobloedd llwythol yr ymosodwyd arnynt gan grŵp pobl Metei yn 2023 yn ddisgynyddion i’r llwythau y bu cenhadon Methodistiaid Calfinaidd Cymreig yn gweithio gyda nhw yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Maen nhw’n rhan ohonom ni ac rydyn ni’n rhan ohonyn nhw. Cyfarfûm â theuluoedd sy’n caru heddwch, sydd wedi colli popeth ac wedi profi poen anghredadwy.  Serch hyn oll maent yn canfod gobaith yn ei gilydd ac yn Nuw.
‘Yn ystod 2025, rydym yn gofyn i unigolion ac eglwysi roi’n hael, i helpu ein brodyr a chwiorydd i ddychwelyd adref ac ailadeiladu eu tai a’u busnesau.’
Yn ystod eu hymweliad, cyfarfu Nan a Rebecca â dau oroeswr, y gwnaeth eu straeon argraff fawr arnynt. Eu henwau (wedi newid am resymau diogelwch) yw Robert a Kimteii.
Fy enw i yw Robert.
Mae fy nhŷ a busnes wedi mynd, wedi llosgi i’r llawr. Roeddwn wedi gwario fy holl gynilion ar adeiladu a sefydlu meithrinfa. Roeddwn i mor falch o fy musnes a fy ngwaith gyda theuluoedd. Ac yn awr mae’r cyfan wedi diflannu. Nid yn unig fi mae hyn yn wir am lawer o rai eraill. Roedd gen i gymdogion a oedd wedi gweithio yn y Fyddin ac wedi gwario eu pensiwn ar adeiladu eu cartrefi eu hunain. Mae’r tai hyn hefyd wedi’u llosgi’n ulw. Rwy’n hiraethu am fynd adref, rydyn ni i gyd yn gwneud hynny, ond nid yw’n bosibl. Mae popeth wedi mynd. Nid oes unrhyw gyfleusterau meddygol nac ysgol. Mae’r cyfan wedi’i losgi’n ulw. Pan ymosododd pobl Metei arnom, fe wnaethant roi popeth ar dân a rhedeg am ein bywydau. Fe redon ni lawr y cwm, fi, fy ngwraig a fy mhlant. Edrychais yn ôl a’r cyfan roeddwn i’n gallu ei weld oedd awyr a oedd fel petai ar dân.
Fy enw i yw Kimteii
Bu’n rhaid i ni ffoi pan ddechreuodd y tanau a rhedasom i’r jyngl, gyda’n mab pum mlwydd oed, fy ngŵr, rhieni yng nghyfraith a brawd yng nghyfraith. Mae fy mab wedi’i drawmateiddio gan yr hyn a welodd a’r arswyd o redeg i ffwrdd. Rydyn ni wedi colli popeth, does gennym ni ddim byd nawr. Yn ôl ym Manipur, roedd gennym ni fferm a busnes, ond mae hynny i gyd wedi mynd ac rydyn ni’n dibynnu ar haelioni pobl Mizo. Rydyn ni wedi blino’n lân a dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd gan y dyfodol i ni. Mae fy mab yn arswydus gan y meddwl y gallem fynd yn ôl i Manipur. Mae ganddo hunllefau ofnadwy am y llosgi a’r trais a welodd – ond rhaid inni fynd yn ôl pan allwn. Mae’n gartref i ni.
I gael rhagor o wybodaeth am Apêl Manipur ewch i https://www.ebcpcw.cymru/en/manipurappeal/
Diwedd
Nodyn i’r golygydd: Mae’r delweddau atodedig yn cynnwys y Parch Nan Powell Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru; y Parch Rebecca Lalbiaksangi, gweinidog Gofalaeth Dwyrain Maldwyn; Robert, ffoadur o Manipuri sydd bellach yn byw ym Mizoram. Am resymau diogelwch ni allwn ddangos delwedd o Kimteii.
Am wybodaeth i’r cyfryngau a chyfweliadau, cysylltwch â Gethin Russell-Jones, swyddog y wasg, Eglwys Bresbyteraidd Cymru 07378 309268