Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru
Cyfyngiadau Covid-19 Lefel 2
Nid cyngor cyfreithiol yw’r diweddariad hwn, ac ni ddylid ei ddefnyddio at y diben hwnnw.
Ar Ragfyr 17 2021 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd cyfyngiadau “yn defnyddio elfennau o lefel rhybudd dau” yn cael eu cyflwyno ar Ragfyr 27. Fe fydd manylion y cyfyngiadau hyn yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos Rhagfyr 20-24.
Er mwyn helpu eglwysi i gynllunio ar gyfer y cyfnod wedi’r Nadolig (gorllewinol) mae’r papur hwn yn crynhoi cyfyngiadau Lefel 2 fel y maent yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020, Atodlen 2. Adnodd cynllunio yn unig yw’r papur hwn; bydd y rheoliadau a ddaw i rym ar Ragfyr 27 yn sicr yn wahanol o ran nifer o fanylion pwysig. Dylai eglwysi wirio gwefan Llywodraeth Cymru (llyw.cymru/coronafeirws) yn rheolaidd i weld y newidiadau diweddaraf. Gwneir pob ymdrech i ddiweddaru gwefan a chyfryngau cymdeithasol Cytûn hefyd, ond ni ellir gwarantu gwneud hynny ar fyrder dros gyfnod y gwyliau. Cyfrifoldeb rheolwyr mangreoedd rheoleiddiedig yw gwybod, deall a gweithredu’r rheoliadau perthnasol. Ni all Cytûn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamgymeriadau neu unrhywbeth a hepgorwyd o’r papur hwn na’n gwefan.
Mae cyfyngiadau Lefel 2 yn ddarostyngedig i’r rheolau sydd yn eu lle o dan y Lefel 0 presennol – megis y ddyletswydd statudol ar reolwyr “mannau rheoleiddiedig” (gan gynnwys addoldai a chanolfannau cymunedol) i lunio asesiad risg yn nodi pob “mesur rhesymol” i atal lledaeniad coronafeirws; a gwisgo gorchuddion wyneb wrth gyfarfod â phobl mewn mannau rheoleiddiedig dan do. Dylid hefyd parhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru am awyru. Gellir gweld crynodeb o’r rhain a dolenni i’r manylion ar wefan Cytûn.
Bydd y “mesurau rhesymol” y bydd angen eu cymryd o Ragfyr 27 mewn mangreoedd rheoleiddiedig, gan gynnwys addoldai, yn cynnwys cadw pellter corfforol o 2m rhwng pob aelwyd neu aelwyd estynedig – cyhoeddwyd hyn gan Lywodraeth Cymru ar Ragfyr 17.
Cyhoeddwyd hefyd byddwn yn newid y rheoliadau coronafeirws i roi dyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i roi’r hawl i’w gweithwyr weithio gartref, os yw hynny’n bosib, ac ar weithwyr i wneud hynny lle bo hynny’n ymarferol. Mae “gweithio” yn y cyd-destun hwn yn cynnwys gwaith gwirfoddol, felly dylai eglwysi gynllunio ar gyfer gwneud cymaint o’u gwaith ag sy’n rhesymol ymarferol o bell o Ragfyr 27.
Yn ychwanegol at yr hyn a gyhoeddwyd ar Ragfyr 17, o dan reoliadau lefel 2 o’u gweithredu’n llawn, gellid disgwyl y canlynol:
- Cyfyngu digwyddiadau a drefnir i 30 o bobl dan do a 50 o bobl yn yr awyr agored. Byddai plant dan 11 oed a’r sawl sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y digwyddiad (megis yr arweinyddion, stiwardiaid, ayb) yn ychwanegol at y niferoedd hyn. Nid yw’r uchafsymiau hyn yn berthnasol i wasanaethau priodas nac angladd. Nid ydynt chwaith yn berthnasol i wasanaethau crefyddol yn gyffredinol ar yr amod bod gwasanaethau a gynhelir dan do yn cael ei gynnal neu ei chynnal mewn mangre a ddefnyddir fel arfer at y diben hwnnw. Mae hyn yn golygu na ellid llogi adeilad na ddefnyddir fel arfer ar gyfer addoli er mwyn cynnal oedfa o dros 30 o bobl. (Byddai adeilad a logir ar gyfer addoli yn rheolaidd o hyd yn gallu derbyn cynulleidfa o fwy na 30 i oedfa).
- Gellid agor pob atyniad ymwelwyr dan do ac yn yr awyr agored, gan gynnwys addoldai hanesyddol, gyda mesurau diogelwch priodol yn eu lle.
- Gallai caffis a mannau arlwyo tebyg agor, gyda mesurau diogelwch yn eu lle (megis gweini bwyd a diod i’r bwrdd yn unig; cyfyngu i 6 o bobl ar yr un bwrdd oni bai eu bod oll yn aelodau o’r un aelwyd neu aelwyd estynedig; sicrhau 2m rhwng pob aelwyd ar bob adeg; gwisgo gorchuddion wyneb pan nad ydych yn eistedd wrth y bwrdd; cadw cofnodion ar gyfer Profi, Olrhain a Gwarchod; ac yn y blaen). Gweler isod am drefniadau arlwyo mwy anffurfiol.
- Gellid defnyddio canolfannau cymunedol at bob pwrpas, gan gynnwys adloniant a digwyddiadau cymdeithasol, o fewn y cyfyngiadau niferoedd uchod. Ond dan Lefel 2, fe waherddid gwerthu alcohol mewn mannau adloniant trwyddedig lle ceir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio.
- Cyfyngu cynulliadau mewn anheddau (gan gynnwys masnys, ficerdai a llety gweithwyr eglwysig) i aelodau un aelwyd neu aelwyd estynedig yn unig. Gall aelwyd estynedig gynnwys holl aelodau 2 aelwyd yn unig. Byddai raid cadw at yr un aelwyd estynedig trwy gydol y cyfnod cyfyngiadau.
- Cyfyngu cynulliadau mewn gerddi preifat i uchafswm o 6 o bobl o hyd at 6 aelwyd wahanol. Gall plant dan 11 a gofalwyr i eraill sy’n bresennol fod yn ychwanegol at y niferoedd hyn. Mae gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol hefyd yn eithriad i’r uchafswm, felly gallai cyfarfodydd llywodraethiant eglwysig neu gyfarfodydd i drefnu gweithgarwch gael eu cynnal mewn gardd breifat (ond nid dan do mewn cartref preifat) neu mewn addoldy neu ganolfan pe na ellid ei drefnu o bell, wedi sicrhau asesiad risg.
Felly, ni ddylai eglwysi fynd yn gyfrifol am drefnu gweithgareddau mewn anheddau neu erddi preifat y tu hwnt i’r cyfyngiadau hyn wedi Rhagfyr 27 hyd nes y ceir sicrwydd a fydd y cyfyngiadau uchod yn dod i rym ai peidio.
Nid yw’r rheoliadau Lefel 2 yn gwbl eglur ynghylch gweini lluniaeth mewn addoldai a chanolfannau cymunedol. Wedi trafod gyda swyddogion Llywodraeth Cymru y tro diwethaf y buom dan gyfyngiadau Lefel 2, cytunwyd bryd hynny ar y canlynol:
- Lle bo gan ganolfan gymunedol neu addoldy gyfleusterau caffi ffurfiol, yna gellir eu hagor yn unol â’r rheoliadau a’r canllawiau Rhaid dilyn y canllawiau yn llawn hyd yn oed pan yn gweini bwyd a diod am ddim neu am rodd, er enghraifft yn dilyn oedfa. Ni chaniateir cymysgu anffurfiol. Rhaid cyflawni asesiad risg cyflawn cyn darparu bwyd a diod.
- Lle bo gan ganolfan neu addoldy Dystysgrif Hylendid Bwyd cyfredol, ac felly mae asesiad risg cyffredinol eisoes wedi ei baratoi (cyn Covid, efallai) ac mae’r lle yn hysbys i’r awdurdod lleol, yna gellir gweini bwyd a diod (am dâl, am rodd neu am ddim) os y gellir gosod a threfnu’r ganolfan megis caffi – gweini i’r bwrdd yn unig; cyfyngu i 6 o bobl ar yr un bwrdd oni bai eu bod oll yn aelodau o’r un aelwyd; sicrhau 2m rhwng pob aelwyd ar bob adeg; gwisgo gorchuddion wyneb pan nad ydych yn eistedd wrth y bwrdd; cadw cofnodion ar gyfer Profi, Olrhain a Gwarchod; ac yn y blaen, yn unol â’r canllawiau ar gyfer bwytai. Rhaid cynnal asesiad risg cyflawn parthed Covid-19 cyn gwneud hyn.
- Lle nad oes Tystysgrif Hylendid Bwyd, neu nid oes modd gosod y ganolfan ar ffurf caffi a dilyn y canllawiau, yna ni ddylid gweini bwyd a diod am y tro. Os yw aelodau gweithgarwch a gynhelir yn y ganolfan am fwyta neu yfed, dylent ddod â’u bwyd a diod eu hunain ac ni ddylid eu rhannu rhwng aelwydydd.
Awgrymir bod eglwysi yn cynllunio eu trefniadau arlwyo o Ragfyr 27 yn unol â’r uchod hyd nes y ceir sicrwydd pellach.
Gethin Rhys 17.12.2021