Newyddion

Annwyl gyfeillion,

Ysgrifennaf atoch eleni o ganol prysurdeb paratoi at y Nadolig yn Aizawl, prif ddinas talaith Mizoram yng Ngogledd Ddwyrain yr India. Cychwynodd Rebecca Lalbiaksangi a minnau o Gymru ar yr 2il o Ragfyr a chyrraedd yma ar y 3ydd ar gyfer mynychu cyfarfodydd Synod Mizoram o Eglwys Bresbyteraidd India. Bydd y ddwy ohonom yn teithio i Shillong mewn deuddydd i gael dathlu gyda chwiorydd Synod Sepngi yn nhalaith Meghalia. Byddwn yn rhan o’u dathliadau clo eleni i gofio hanes merch ifanc o’r enw Ka Nabon, y ferch gyntaf yma yng Ngogledd Ddwyrain yr India i gofleidio’r Arglwydd Iesu Grist fel ei Gwaredwr, a hynny 175 mlynedd yn ôl i eleni. Cawsom gyfle hefyd i gyfarfod 40 o deuluoedd o dalaith Manipur sydd wedi cael lloches yma yn Aizawl. Roedd y gymuned gyfan yn paratoi i ddathlu’r Nadolig gyda’i gilydd ac yn diolch eu bod nhw mewn man diogel i fedru gwneud hynny. Yr ydym wedi bod yn dilyn hanes y gwrthdaro yn y dalaith a’r erledigaeth ar Gristnogion yn Manipur ers dechrau 2023. Buom hefyd yn cyfarfod yn wythnosol fel eglwys i weddïo dros y sefyllfa gyda rhai ohonyn nhw. Roedd cael cyfarfod pobl yn y cnawd ar ôl bod yn gweddïo drostyn nhw yn brofiad arbennig ac fe deimlem undeb ysbrydol cryf efo nhw oherwydd y gweddïo hwnnw. Gobeithiwn rannu mwy am eu straeon wrth inni rannu deunyddiau am ein Hapêl Manipur a lansiwyd yn y Gymanfa Gyffredinol eleni a’ch ysbrydoli chwithau i gyd i gofio amdanyn nhw a chael eich uno hefyd efo nhw yn eu hangen.

Gan gredu bod galwad arnom fel Cristnogion i ‘geisio barn, achub cam y gorthrymedig, amddiffyn yr amddifad’ (Eseia 1:17), yr oeddym yn falch o dderbyn datganiad pwerus Cyngor y Genhadaeth Fyd-eang (CWM) am yr argyfwng dyngarol yn y Dwyrain Canol. Rhannwn eu consyrn dwfn am dawelwch y byd a’r wasg a’r eglwys yn wyneb y fath ddioddefaint a hi-laddiad yn Gaza tra mae ein gwledydd ein hunain yn dal i gyflenwi’r arfau a’r offer sy’n cael ei ddefnyddio i achosi’r fath erchylltra. Mae’r alwad am roi blaenoriaeth i anghenion dyngarol sylfaenol y boblogaeth yno er mwyn arbed bywydau pob gyffredin dirif.  (Gellir gweld y datganiad llawn ar ein gwefan o dan newyddion). Anogwyd ni hefyd i fod yn gweddïo am heddwch yn Gaza a’r byd yn gyfan lle bynnag y byddwn ni am 12 o’r gloch bob dydd yn ystod yr Adfent.

Mae pob bywyd yn bwysig ac yn rhodd oddi wrth yr Arglwydd lle bynnag y byddon nhw a phwy bynnag fyddon nhw, a beth bynnag all eu cyfraniad fod i gymdeithas. Mewn cymdeithas sy’n prysur newid ei daliadau a llacio’i gafael yn yr hen gredoau, fe gawsom gyfle eto i ddal at ein safbwynt ar roi cymorth i farw a chefnogi’r doctoriaid a’r gweithwyr gofal hynny yn ein plith oedd yn gwrthwynebu’r cynnig hwn. Mae’n bwnc y dylid ei drafod yn drwyadl, ac er i Aelodau Seneddol gytuno i daith y mesur hwn drwy’r senedd, fe ddaliwn ninnau hefyd at bwysigrwydd gofal lliniarol da i bawb a bod hwnnw’n cael ei ariannu’n deilwng.

Eleni wrth i ni deithio drwy’r Adfent, yn paratoi ar gyfer y Nadolig yn ein heglwysi a dathlu dyfodiad ‘y crewr mewn cadachau’, y mae thema’r Synod yma ym Mizoram yn berthnasol i ni ei gofio:

“Llais un yn galw, “Paratowch yn yr anialwch ffordd yr ARGLWYDD, unionwch yn y diffeithwch briffordd i’n Duw ni. Caiff pob pant ei godi, pob mynydd a bryn ei ostwng; gwneir y tir ysgythrog yn llyfn, a’r tir anwastad yn wastadedd. Datguddir gogoniant yr ARGLWYDD, a phawb ynghyd yn ei weld. Genau’r ARGLWYDD a lefarodd.”” Eseia 40:3-5

Son mae Eseia wrth gwrs am Ioan Fedyddiwr yn paratoi ffordd i Iesu, ac mae lle inni i gyd i wneud lle i Iesu ddod i’n plith ni. Meddyliwn sut y byddwn yn gwneud y lle hwnnw er mwyn i ogoniant a rhyfeddod yr Arglwydd, ei eni yn wan a thlawd, a’i fywyd a’i waith yn ein plith, a’i farw o’i fodd ar bren, gael ei ddatguddio, er mwyn i bawb ei weld.

Wrth i ninnau fel Eglwys hefyd feddwl am y dyfodol a cheisio paratoi yn addas a pherthnasol, ar ei gyfer, byddwn eto yn 2025 yn edrych ymlaen yn weddigar at weld mwy o weithwyr arloesol i gymryd at waith cenhadol newydd yn ein cymunedau.

Mewn cynhadledd ar ein defnydd o adeiladau, a gynhelir ar yr 2ail o Ebrill yn Gloddaeth Llanduddno. Byddwn yn gofyn: ‘Beth yw ystyr y meini hyn?’

Cydnabyddwn bod yr Adfent, i rai yn gallu bod yn gyfnod o hiraeth ac atgofion am anwyliaid a aeth o’n blaenau. Yr ydym fel teulu’r eglwys yn galaru am farwolaeth amryw o’n gweinidogion eleni. Mae’r cof amdanyn nhw yn un  annwyl iawn, a diolchwn i Dduw am eu gwasanaeth ffyddlon. Gweddïwn gysur yr Arglwydd ar eu teuluoedd a phawb sydd mewn galar ar yr adeg yma.

A gaf i ddarfod drwy ddymuno bendithion yr Adfent o obaith, tangnefedd, llawenydd a chariad ichi y Nadolig hwn, a phob gras a nerth ichi yn gymorth yn y flwyddyn newydd.

Gyda llawer o gariad,

Nan Powell-Davies

Ysgrifennydd Cyffredinol