Newyddion

 

Eglwys Bresbyteraidd Cymru

23 Ionawr 2026

I’w Rhyddhau ar Unwaith

 

 

           ‘Mae gennym ddeg mlynedd i newid ein ffyrdd,’ meddai arweinydd eglwysig

                Eglwys Bresbyteraidd Cymru’n lansio cynlluniau beiddgar ar gyfer y degawd nesaf

 

‘Mae gennym tua deg mlynedd i newid y ffordd rydym yn trefnu, sut rydym yn gweithio ac yn addoli. Ar ôl hynny, mae’n debyg y bydd hi’n rhy hwyr.’ Dyma eiriau llym y Parchedig Nan Powell-Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, cyn cynhadledd arbennig a gynhelir yn Wrecsam ar 28 Ionawr. Mae’r gynhadledd undydd yn rhan o broses ymgynghori lle mae’r aelodau’n ystyried symleiddio llywodraethu, cryfhau cenhadaeth, ac ymateb yn realistig i’r amgylchiadau newidiol sy’n wynebu eglwysi ledled Cymru.

Mae arweinwyr yr eglwys wedi nodi’r angen i leihau cymhlethdod gweinyddol a chaniatáu i weinidogion, blaenoriaid a chynulleidfaoedd ganolbwyntio’n well ar addoli, gofal bugeiliol, a chenhadaeth yn eu cymunedau. Ymhlith yr argymhellion sy’n cael eu trafod y mae:

  • grymuso’r eglwys leol fel prif leoliad cenhadaeth a gweinidogaeth, gyda chefnogaeth ar ffurf hyfforddiant, goruchwyliaeth fugeiliol, a chyfleoedd arloesi;

  • ad-drefnu’r Henaduriaethau ar sail cysylltiadau naturiol a chymunedol er mwyn gwella cydweithio, gofal bugeiliol, ac ymgysylltu eciwmenaidd;

  • adfer model y Gymdeithasfa fel y prif gorff sy’n gwneud penderfyniadau.

Mae’r digwyddiad yn Wrecsam yn dilyn cynhadledd a gynhaliwyd yn Llandudno ym mis Ebrill 2025 ar y thema Beth yw ystyr y meini hyn i chwi?’ Yn y gynhadledd hon

 cafodd cynulleidfaoedd lleol eu hannog a’u hysbrydoli i ystyried defnydd creadigol a chymunedol o adeiladau capeli, gan roi pwyslais ar geisio bod yn gydnaws â’n cenhadaeth yn hytrach na’u cau yn unig. Amlygodd llawer o’r prosiectau y cyfeiriwyd atynt enghreifftiau o bartneriaethau eciwmenaidd a chymunedol.

Dywedodd Glynis Owen, Llywydd Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru: ‘Mae hon yn broses ddeinamig ac eang ei chwmpas. Mae dyfodol yr Eglwys yn dibynnu nid yn unig ar ddiwygio ein trefn ond ar ymrwymiad o’r newydd i ffydd, tystiolaeth a gwasanaeth. Rydym yn ymgynghori’n eang er mwyn sicrhau ymgysylltiad dwfn â thrawsnewid cenhadaeth Eglwys Bresbyteraidd Cymru ar gyfer y genhedlaeth nesaf.’

Cynhelir y Gynhadledd Ailstrwythuro ddydd Mercher, Ionawr 28, 9.30yb – 4yh yng Nghapel y Groes, Wrecsam, LL12 7AG.

 

Datganiad

Diwedd

Gethin Russell-Jones, Swyddog y Wasg, 07378 309268