Newyddion Eglwys Bresbyteraidd Cymru 31/7/26
Murlun newydd Morfydd Owen wedi’i ddatgelu ym Mhontypridd wrth i Gŵyl Morfydd gyhoeddi rhaglen yr ŵyl ar gyfer 2026
I’w Ryddhau ar Unwaith
Mae murlun newydd bywiog yn dathlu’r gyfansoddwraig arloesol o Gymru, Morfydd Owen, wedi’i ddadorchuddio yn Chwarter Diwylliannol Pontypridd, gan greu teyrnged barhaol i un o ffigurau cerddorol mwyaf dylanwadol Cymru.

Wedi’i leoli ar Stryd Crossbrooke, mae’r gwaith celf ar raddfa fawr wedi’i greu gan yr artist stryd enwog o Gymru, Tee2Sugars, ac mae’n anrhydeddu’r gyfansoddwraig a aned yn Nhrefforest, y mae ei hetifeddiaeth nodedig yn parhau i ysbrydoli mwy na chanrif ar ôl ei marwolaeth.
Er i Owen farw yn 26 oed yn unig, cyfansoddodd fwy na 150 o weithiau yn ystod ei hoes ac fe’i hystyrir yn eang fel un o gyfansoddwyr mwyaf dawnus Cymru.
Mae’r murlun wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn dilyn cais llwyddiannus gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac elw o gyfres o berfformiadau tair noson gan enillydd Grammy, Amy Wadge, fel rhan o raglen Gŵyl 2025. Mae’r darn ar raddfa fawr wedi trawsnewid wal amlwg ‘Rhi’s Cafe’ yn ddathliad o greadigrwydd a threftadaeth Cymru.
Mae’r dadorchuddio hefyd yn nodi lansio rhaglen Gŵyl Morfydd 2026, a fydd yn dod â chynulleidfaoedd ynghyd ar gyfer cyfres o berfformiadau a digwyddiadau yn dathlu cerddoriaeth a dylanwad Owen. Mae’r ŵyl hefyd yn falch iawn o gyhoeddi mai’r gyfansoddwraig ac enillydd sawl gwobr Amy Wadge, fydd ei noddwr newydd.
Dywedodd trefnwyr yr ŵyl, Jessica Morgan a Caysha Frederick:
“Rydym yn falch y bydd delwedd Morfydd yn ein hatgoffa o’i chyfraniad rhyfeddol i gerddoriaeth Cymru ac yn ysbrydoliaeth i’r gymuned y gall yr uchelgais a’r breuddwydion sydd gennym ein harwain i leoedd annisgwyl.”
Ychwanegodd Swyddog Celfyddydau RhCT, Jesse Briton:
“Mae’r murlun hwn yn sicrhau bod stori Morfydd Owen yn weladwy yn y gymuned lle y dechreuodd. Gobeithiwn y bydd yn ennyn chwilfrydedd, yn annog pobl i ddarganfod ei cherddoriaeth ryfeddol ac yn atgoffa pobl ifanc y gall talent o’r radd flaenaf ddod o’n trefi a’n cymunedau.”
Dywedodd Dr Rhian Davies, bywgraffydd y cyfansoddwr: “Pan ddechreuais ymchwilio ym 1982, cefais y fraint o gyfweld â’r bobl olaf ym Mhontypridd a Threfforest a oedd yn cofio Morfydd Owen.
Mae’r murlun yn seiliedig ar ffotograff a roddwyd i mi ar y pryd, ac mae wedi bod yn brofiad hynod deimladwy darllen yr holl sylwadau cadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol wrth i drigolion heddiw ail-ddarganfod Morfydd fel un ohonyn nhw eu hunain.”
Disgwylir i’r murlun ddod yn dirnod newydd o fewn Chwarter Diwylliannol Pontypridd, gan ddathlu treftadaeth artistig y dref a’i hymrwymiad parhaus i ddiwylliant a chreadigrwydd.
Mae manylion llawn rhaglen Gŵyl Morfydd 2026 ar gael wrth ymweld a www.morfydd-owen.cymru
Gwybodaeth ynglŷn â Gŵyl Morfydd
Mae Gŵyl Morfydd yn ddathliad blynyddol o fywyd, cerddoriaeth ac etifeddiaeth y gyfansoddwraig o Drefforest, Morfydd Owen. Drwy gyngherddau, arddangosfeydd, gweithgareddau addysgol a digwyddiadau cymunedol, mae’r ŵyl yn taflu goleuni ar un o gyfansoddwyr pwysicaf Cymru wrth ysbrydoli cynulleidfaoedd newydd i ymgysylltu â cherddoriaeth a diwylliant Cymru.
Diwedd
Cyswllt y Cyfryngau: Jessica Morgan
Gŵyl Morfydd Festival
E-bost: jessica.morgan@ebcpcw.cymru
Ffôn: 07946045877
Gwefan: www.morfydd-owen.cymru