Newyddion

Gyda thristwch rydym yn eich hysbysu na fydd DATHLIAD CENHADOL MERCHED Y GOGLEDD A SASIWN CENHADOL CHWIORYDD Y DE yn cael eu cynnal eleni (Mai 2020) gan ddilyn canllawiau EBC parthed y Coronafeirws. Ond yr ydym yn hapus bod trefniadau ar y gweill i ymweld â Chricieth a Pontarddulais mis Mai 2021.

Hoffai’r swyddogion eich annog i barhau i gasglu arian tuag at Gasgliad Cenhadol 2020 ond sylweddolwn bydd hyn yn anodd wrth i’r Capeli gael eu gynghori i beidio cynnal oedfa. Gofynnwn yn garedig i chi anfon y casgliad at eich Trysorydd pan bydd hynny yn hwylus a saff i chi wneud.  Parhawn i gadw chi yn ein gweddïau gan gofio bydd y Bugail Da yn gofalu amdanom i gyd.