Newyddion

Annwyl Gyfeillion,

Pâr: Neiwdiadau yn y ffordd y Cofrestrir Priodasau

Yr ydym wedi deall yn ystod y dyddiau diwethaf fod yna newid sylweddol yn ffordd y mae priodasau i gael eu cofrestru. Daeth y newid hwn i rym ar y 3ydd o Fai 2021. Gan nad ydym wedi derbyn gwybodaeth yn swyddogol, yr wyf yn ddyledus i Lywydd y Gymanfa am ymchwilio i’r mater hwn.
Fel y gwelwch o’r daflen wybodaeth amgaeedig, bellach ni fydd y drefn o gofnodi priodas mewn cofrestr yn yr eglwys yn cael ei dilyn, ond, yn hytrach, y Gweinidog, neu y sawl sy’n arwain y gwasanaeth fydd yn ‘cofrestru’, a hynny drwy arwyddo’r Atodlen Briodas fydd yn cael ei rhoi gan y Cofrestrydd. Mae’r wybodaeth yn fras yn y daflen, ond gwahoddwn chi i gysylltu â’r Cofrestrydd yn eich Sir os oes gennych gwestiynau am y broses. Mae hyn wrth gwrs am effeithio ar unrhyw ‘berson awdurdodedig’ yr ydych wedi ei ddewis yn eich eglwys, gan na fydd y rôl hon yn bodoli mwyach. Ymhellach, yr ydym yn parhau i ddisgwyl i glywed beth sydd angen ei wneud gyda’r ddwy Gofrestr Briodas sydd yn eich eglwys. Gobeithiwn rannu y wybodaeth hon â chwi pan ddaw’r wybodaeth i law. Os, yn y cyfamser, yr ydych wedi clywed gan y Cofrestrydd, ac y mae gennych wybodaeth i rannu gyda gweddill yr eglwysi, cofiwch adael inni wybod.

Cliciwch yma i lawrlwytho: Taflen Wybodaeth Cofrestru Priodas Cymraeg

Marcus Robinson – Y Llywydd
Meirion Morris – Ysgrifennydd Cyffredinol