Newyddion

Yn yr hen garchar ym Mlaenau Ffestiniog ar 2 Chwefror 2024 dyma’r gân a’r weddi a gododd yn niwrnod gweddi 100 i Gymru – casgliad o ffrindiau yn yr efengyl sydd am weld 100 eglwys iach newydd wedi eu plannu yng Nghymru yn y 10 mlynedd nesaf. Roedd Duw yn agos fel yr oedd yn achos Paul a Silas yn y carchar yn yr Actau – ond ni ddilynodd daeargryn. Yn hytrach na hynny, disgynnodd ei bresenoldeb mewn grym tawel a symud calonnau’r rhai oedd yn stafell theatr CellB – yr hen garchar sydd bellach yn sinema, Canolfan greadigol, canolfan ieuenctid a llawer mwy! Gweddi’r Arglwydd fu’n llywio’r dydd arbennig yma o weddi a mawl. Dechreuwyd am hanner dydd a chafwyd chwe awr o weddi a mawl di-dor wrth i wahanol arweinwyr ein tywys ni drwy’r weddi a ddysgodd Iesu i’w ddilynwyr er mwyn iddyn nhw gael rhannu ynddi. Ac fe wnaeth llawer wedyn ymuno â ni yn y dathliad gweddi gyda’r nos.

CellB, hen orsaf yr heddlu yn Blaenau lle mae ‘Craig blaenau’ yn cyfarfod ar hyn o bryd.

Fel tîm Craig Blaenau roedd gweld y nifer fawr o ddilynwyr Iesu (bron i 200 yn ystod y dydd a’r nos) wnaeth yr ymdrech fawr i drafeilio ledled Cymru (ac ymhellach!) er mwyn sefyll gyda ni yn y bwlch yn anogaeth enfawr. Fe fuon ni’n gofyn i Dduw drugarhau wrthym, i weld diwygiad ar dorri, ac i’w deyrnas ddod i lawr yma megis yn y nef, felly ym Mlaenau Ffestiniog a’r fro hefyd. Galwom allan ar i enw Duw gael ei sancteiddio lle nad yw felly ar hyn o bryd. Gofynnon ni iddo roi inni ein bara beunyddiol, i’n harfogi a’n nerthu ar gyfer y gwaith. A chafwyd cyfnod o gyffesu ein pechod i Dduw fel unigolion ac fel eglwys er mwyn iddo faddau inni, iacháu ein gwlad a’i bendithio eto.

Erbyn y dathliad gweddi gyda’r nos am 7:30yh roedd stafell y theatr yn orlawn wrth i bobl dyrru yno i ymuno yn y gân o fawl, clywed am y pethau newydd y mae Duw yn ei wneud ar hyd gogledd Cymru i gyd ac ymafael mewn gweddi dros y rhanbarth cyfan. Dechreuwyd y noson efo mawl gwefreiddiol; roedd hi’n beth rhyfeddol clywed 125 o leisiau’n un mewn mawl. Gosododd Owen Cottom (arweinydd Grace Church, Caerdydd, ac un o’r tîm sy’n arwain 100.Cymru) y sylfeini ar gyfer y noson drwy ein hatgoffa ni nad ydi Iesu wedi anghofio gogledd Cymru, ei fod yn gweld yr ardal, a bod ei galon yn methu peidio â mynd allan i’r colledig, a bod angen i’r un galon ein harwain ni yn ein gweddïau a’n gweithredoedd.

 

Clywsom am waith mewn pedair ardal wahanol, gan ddechrau ym Môn, efo Rachel Radbourne yn rhannu am Gapel Goleudy, eglwys ddwyieithog newydd sy’n cwrdd yn Llangefni ac yn gweld bendith aruthrol drwy wasanaethu’r ynys. Nesaf yr oedd Arawn ac Anest Glyn o Gapel Ebenser, y Ffôr, a dynnodd ein sylw at Ben Llŷn gyfan a’r angen ysbrydol a chymdeithasol sy’n bod yno, ac y dylem ofyn i Dduw eu harwain hwy ac eraill i ddirnad y ffordd ymlaen i weld Llŷn unwaith eto’n cael ei thrawsffurfio gan Grist. Rhannodd Dr Rhodri Glyn wers mewn hanes o sut y symudodd Duw ym Môn i danio ein gweddïau. Dr Andras Iago, gwenidog Bro Dinbych, rannodd wedyn am ‘Gwreiddiau’, cymuned newydd o bobl sy’n dod ynghyd i addoli, i rannu bywyd a gwasanaethu’r dref, cyn cloi efo Andy Hughes o Emaus, Bala, a soniodd am y ffyrdd newydd yr oeddent yn eu defnyddio i gamu allan i gyrraedd eraill a bod yn fendith i ardal Penllyn! Braf oedd clywed am y nifer fawr o bobl ifanc oedd yn mynychu ac yn arwain yno, a’u bod bellach yn rhy niferus i’w man cyfarfod presennol! Gorffennwyd y noson fel y dechreuwyd hi: gyda mawl i’r Arglwydd. Roedd clywed theatr, sydd wedi cynnal sawl gìg ar hyd y blynyddoedd, am y tro cyntaf falle (ond nid y tro olaf, fe weddïwn) yn orlawn o fawl yn rhoi gwefr inni.

 

 

 

 

 

 

 

(I) Rachel Radbourne fu’n rhannu am Gapel Goleudy, Llangefni. (II) Arawn Glyn.

 

Dim ond blas o’r dydd yw hwn: fe wnaeth Duw GYMAINT mwy. Ond dyma weledigaeth a dyhead dwfn y casgliad o ffrindiau ‘100 i Gymru’. Cyn i Dduw symud yn y wlad mae’n codi gweddi yn yr eglwys! I weld 100 o eglwysi newydd a Chymru wedi’i thrawsffurfio, rhaid dechrau efo gweddïo – tanio 100 awr y dydd yw’r nod. Os ydych yn gallu rhoi dim ond 15 munud o weddi yr wythnos i blannu eglwysi a gweld diwygiad yng Nghymru eto, cofrestrwch drwy fynd i wefan 100.Cymru a chofrestru hefyd i dderbyn y llythyr gweddi misol a gwybodaeth am ddigwyddiadau i ddod: https://100.cymru/hafan. Bydd mwy o diwrnodau gweddi fel yma’n cael eu trefnu, ac un peth sy’n sicr ydi y byddwn yn gwneud pob ymdrech i fod yno oherwydd ei bod yn anodd rhoi mewn geiriau faint o anogaeth oedd gweld y niferoedd yn rhannu yn ein calon a’n baich am y dref arbennig yma.

Bydded i’r hyfryd wawr fynd ar led unwaith eto wrth i Gymru gyfan gael ei goleuo gan yr efengyl sanctaidd …

Joseff Rhys Edwards

Blaenau Ffestiniog

Jos a Lydia Edwards a’r plant.

 

PWYNTIAU GWEDDI

1)   Rhowch ddiolch i Dduw am ein clybiau plant a ieuenctid. Bellach mae dros 100 o blant a phobl ifanc y Fro yn dod i’r clwb rygbi am noson o hwyl, bwyd a gemau. Gweddiwch y bydd pob plentyn a pherson ifanc yn teimlo’n saff yno ac yn gweld eu gwir gwerth yng ngolwg Duw.

2)   Rhowch ddiolch am y criw ffyddlon sy’n rhan o’r cwrs Alffa i ieuenctid yn yr ysgol bob prynhawn Llun – gweddiwch y byddwn ni’n gweld ffrwyth ar ôl yr holl sgyrsiau diweddar am ffydd a bywyd gyda nhw.

3)   Rhowch ddiolch i Dduw am Craig Bach. Grwp chwarae newydd i rieni/gwarchodwyr a’u plant. Mae ymateb y gymuned wedi bod yn rhyfeddol wrth i 40 o rieni/gwarchodwyr mynychu’n reolaidd a hyd yn oed mwy o blant!! Gweddiwch dros y cysylltiadau a pherthnasau sy’n dyfnhau, gweddiwch y bydd Craig Bach yn le o fendith a gorffwys i rieni’r dref ac i bresenoldeb Duw llanw’r neuadd chwaraeon ni’n cyfarfod ynddo.

4)   Gweddiwch dros y tîm wrth iddyn nhw ddirnad os yw Duw yn agor drws am gartref mwy parhaol i Craig yng nghanol y dre.

Gofynnwn i chi ymuno yn ein gweddi: ‘Megis yn y nef, felly ym Mlaenau, Bro Ffestiniog, y Gogledd a’r Ddaear hefyd!’