Pŵer Digidol, Gogoniant Dwyfol – lansio ap gweddi unigryw
March 5, 2026
Eglwys Bresbyteraidd Cymru
5 Mawrth 2026
Newyddion i’w Rhyddhau ar Unwaith
Pŵer Digidol, Gogoniant Dwyfol
Eglwys yn lansio ap Gweddi Unigryw
Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru (EBC) yn lansio Ap Gweddi dwyieithog newydd heddiw, ddydd Iau, 5 Mawrth 2026.
Bydd yr ap, sef Gweddi.Prayer, yn gyfoethog o ran ei gynnwys ac yn cael ei ddiweddaru’n gyson. Bydd defnyddwyr yn derbyn gwybodaeth a cheisiadau gweddi cyfredol, gan dynnu sylw at bryderon lleol, cenedlaethol a byd-eang. Yn ogystal ag ysbrydoli gweddi bersonol, mae’r ap wedi’i gynllunio i helpu henaduriaethau lleol i rannu gwybodaeth ac anghenion gyda’u cymunedau eu hunain.
Am y tro cyntaf erioed, bydd cyfeillion ac aelodau EBC yn gallu gweddïo gyda’i gilydd, yn ddigidol ac mewn amser go iawn. Bydd yr ap hwn yn hwyluso gweddi unigol a chorfforaethol, gan greu cysylltiadau ar draws ffiniau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae wedi’i strwythuro o amgylch tri dyddiadur gweddi: cenedlaethol, lleol a phersonol, gydag adrannau ar wahân ar gyfer newyddion a digwyddiadau.
Dywedodd y Parch. Owen Griffiths, gweinidog Henaduriaeth De-ddwyrain Cymru ac un o arweinwyr y prosiect hwn: ‘Rwy’n credu mai’r ap hwn yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru. Am y tro cyntaf erioed, yn sicr o fewn EBC, rydym yn defnyddio pŵer technoleg ddigidol i harneisio pŵer gweddi. Wrth i’r defnyddwyr agor yr ap, byddant yn dod yn rhan o gyd-destun lleol a rhyngwladol. Byddant yn cael eu cyflwyno i anghenion a bywydau cyd-Gristnogion, eglwysi a’r byd ei hun wrth symud eu bysedd ar draws y sgrin. O fewn eiliadau, gallwn fod yn rhannu gweddi dros anghenion Meirionnydd a Manipur!
‘Mewn sawl ffordd, mae EBC wedi bod yn gweddïo’n ddigidol ers rhai blynyddoedd bellach. Mae yna gyfarfodydd Zoom rheolaidd, lle mae pobl ar draws Cymru a’r byd yn gweddïo gyda’i gilydd. Ond mae Gweddi.Prayer yn mynd â ni i lefel newydd, lle gallwn weddïo’n ddi-baid, fel mae’r Beibl yn ei awgrymu yn 1 Thesaloniaid 5, adnod 17.’
Mae Gweddi.Prayer ar gael ar Google Play ac Apple App Store.
Diwedd
Mae’r lluniau atodedig yn dangos y Parch Owen Griffiths a sgrin-luniau o Gweddi.Prayer
Ar gyfer cyfweliadau, cysylltwch â Gethin Russell-Jones, Swyddog y Wasg, 07378 309268