
Newyddion Eglwys Bresbyteraidd Cymru 02/7/26
Eglwys yn Cyhoeddi Cynllun Ailstrwythuro Pwysig yn ei Chymanfa Gyffredinol
‘Rhaid gweithredu nawr neu marw fyddwn,’ meddai’r Ysgrifennydd Cyffredinol
I’w Ryddhau ar Unwaith
Yr wythnos nesaf, bydd Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru (EBC) yn cyfarfod ym Mhorthmadog. A bydd y brif eitem ar yr agenda’n penderfynu ei thynged am y deng mlynedd nesaf.
Wrth i’r eglwys wynebu dirywiad blynyddol o 8% yn ei haelodaeth er 2020, bydd cyfle i’r Gymanfa Gyffredinol gymeradwyo strategaeth ailstrwythuro gynhwysfawr. Gyda chyfanswm o 11,430 o aelodau mewn 443 o eglwysi lleol, a dim ond 275 o aelodau dan 25 oed, mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi treulio’r 12 mis diwethaf yn ymgynghori â’i haelodau am y dyfodol.
Casglwyd ymatebion o bob rhan o’r enwad, yn cynnwys y Gymdeithasfa yn y Gogledd, yn y De a’r Dwyrain, y Byrddau, yr Adrannau, a’r gynhadledd arbennig a gynhaliwyd yn Wrecsam yn gynharach eleni. Mae hyn wedi arwain at gynllun unedig ar gyfer dyfodol yr Eglwys. Mae’r strategaeth arfaethedig yn cynnwys y prif argymhellion a ganlyn:
Prif Elfennau’r Cynllun Ailstrwythuro
- Adnewyddu’r Eglwys Leol: Bydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn gosod y gynulleidfa leol yng nghanol addoliad, cenhadaeth, a thystiolaeth i’r gymuned. Gan gydnabod yr heriau sy’n wynebu cynulleidfaoedd bychain, oedrannus, neu eglwysi gwledig difugail, bydd yr Eglwys yn cyflwyno hyfforddiant a chefnogaeth addas a fydd yn cwmpasu arweinyddiaeth, y sacramentau, gofal bugeiliol, a gwaith ieuenctid.
- Ailddychmygu Arweinyddiaeth Ranbarthol: Bydd yr Henaduriaethau’n symud o ganolbwyntio ar weinyddiaeth i ddod yn gyrff mwy perthynol, gweddigar, gan ganolbwyntio ar genhadaeth.
- Symleiddio Llywodraethiant a Lleihau Biwrocratiaeth: Gan mai dyma un o’r nodau a gefnogwyd yn fwyaf cyson yn yr ymgynghoriad, bydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn lleihau’r baich gweinyddol ar weinidogion, blaenoriaid, a swyddogion lleol yn sylweddol. Er mwyn sicrhau eglurder, bydd yr Eglwys yn cyhoeddi map llywodraethiant–cyfrifoldeb a model yn dangos y gefnogaeth gan y staff, â’r costau, erbyn yr hydref 2026.
- Stiwardiaeth Greadigol ar Adeiladau: Bydd adeiladau’n cael eu trin fel cyfleoedd ar gyfer cenhadaeth yn hytrach na dim ond rhwymedigaethau yn unig. Mewn partneriaeth ag ymddiriedolwyr rheolaethol lleol, bydd Gweithgor Adeiladau yn parhau i ddatblygu pecynnau cymorth ar gyfer ymwneud â chanolfannau cymunedol, materion treftadaeth, cefnogaeth grantiau, a’r gwahaniaeth clir rhwng cau adeilad a dod ag achos ysbrydol i ben.
- Meithrin Blaengaredd a Phrosiectau Arloesi: Bydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn integreiddio gwaith arloesol a phrosiectau – yn enwedig cynlluniau ar gyfer gwaith plant ac ieuenctid – yn ffurfiol i fywyd ehangach yr Eglwys. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno gwell mentora, llwybrau ariannu, a goruchwyliaeth ddiwinyddol i sicrhau bod gweithwyr arloesol yn teimlo’u bod yn cael eu cefnogi’n llawn.
- Uno Rhanbarthau ac Adrannau: Er mwyn osgoi dyblygu, bydd yr Eglwys yn treialu ‘clystyru’ gwahanol Fyrddau, Adrannau a Phwyllgorau (gan gynnwys Plant ac Ieuenctid, Cenhadaeth, a gwaith y Chwiorydd). Yn ogystal, bydd yr Eglwys yn cyflwyno’r newidiadau cyfansoddiadol lleiaf posibl i ddechrau, gan ddefnyddio’r Gymanfa Gyffredinol fel cyfarfod ar y cyd o’r Gymdeithasfa i symleiddio gwneud penderfyniadau.

Wrth ymateb i’r adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Gymanfa Gyffredinol, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyffredinol, y Parchedig Nan Powell Davies:
‘Mae’r ymgynghoriad wedi rhoi mandad a rhybudd hefyd inni. Mae’n rhoi caniatâd inni ddal ati oherwydd mae cytundeb eang fod y system bresennol yn rhy drwm, ddim yn ddigon tryloyw, ac yn brin o adnoddau ar gyfer yr Eglwys sydd gennym yn awr. Fodd bynnag, mae’n ein rhybuddio y bydd y diwygio’n methu os caiff ei ystyried yn ganoli, yn ymarfer gweinyddol heb ei gostio, neu’n tynnu cefnogaeth yn ôl oddi ar gynulleidfaoedd bregus. Mae hi bellach yn fater o weithredu neu farw i ni fel enwad.’
Er gwaetha’r heriau difrifol sy’n wynebu Eglwys Bresbyteraidd Cymru, mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at arwyddion o obaith:
Mae’r ystadegau ariannol a anfonwyd gan gynulleidfaoedd unigol yn dangos cyfoeth cyfunol sylweddol o ychydig dros £21 miliwn, gan roi sail ariannol gadarn ar gyfer gwaith cenhadol yn y dyfodol.
Gweinidogaeth i Deuluoedd a Phobl Ifanc: Mae 626 o blant yn mynychu 67 o ysgolion Sul, 354 o bobl ifanc yn mynychu 24 o Glybiau Ieuenctid, a 1,720 o bobl yn cymryd rhan mewn gwasanaethau teuluol mewn 81 o leoliadau.
Cenedlaethau Newydd: 16 grŵp Rhieni a Phlant Bach ac 88 o Fedyddiadau Babanod wedi’u cofnodi.
Gweithredu ac Estyn Allan i’r Gymuned: Mae 110 o eglwysi’n cynnal, yn helpu i gynnal, neu’n rhoi cartref i Fanciau Bwyd lleol, a 21 yn gweithredu fel Mannau Cynnes dynodedig.
Ymgysylltu Dinesig: Mae’r adroddiad yn cyfeirio at 109 o gynlluniau “estyn allan eraill”, gan gynnwys boreau coffi cymunedol, grwpiau i bobl hŷn, a chiniawau i’r gymdogaeth.
Y Camau Strategol Nesaf
Bydd cynllun strategol cynhwysfawr yn cynnwys nodau y gellir eu mesur dros flwyddyn a thros dair blynedd yn cael ei ddrafftio rhwng mis Hydref 2026 a mis Ebrill 2027. Bydd y cynllun hwn yn ystyried yn benodol gyd-destunau Cymraeg a Saesneg, mannau gwledig, a chanolfannau trefol.
Diwedd
Nodyn y Golygydd:
- Cynhelir y Gymanfa Gyffredinol eleni yng Nghapel y Porth, Stryd y Capel, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9DN, ddydd Llun a dydd Mawrth, 6–7 Gorffennaf.
- Mae’r llun atodedig yn dangos y Parch. Nan Powell Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Am gyfweliadau a gwybodaeth i’r cyfryngau, cysylltwch â Gethin Russell-Jones: 07803 309268.