Newyddion

Newyddion Eglwys Bresbyteraidd Cymru

11Tachwedd 2024

I’w rhyddhau ar unwaith

 

Rhaid i ni Siarad

Dydd Sul Diogelu 2024

Bob blwyddyn, mae miloedd o eglwysi ledled y wlad yn uno i nodi Sul Diogelu. Eleni mae’n 17eg Tachwedd;  cyfle i gynulleidfaoedd wrando a siarad gyda’n gilydd am sut y gallwn greu lleoedd sy’n fwy diogel i bawb.

Mae amddiffyn pobl fregus rhag niwed a siarad dros eu hawliau yn rhan annatod o’n mandad ysgrythurol fel Cristnogion. Sul Diogelu yw’n cyfle flynyddol i drafod ein dyletswyddau cyfreithiol, moesol ag ysbrydol. A’r ffocws ar gyfer eleni yw – ‘Rhaid i ni siarad’. Mae’n bryd cael sgyrsiau agored a gonest am yr hyn sydd gennym o’i le a’r hyn yr ydym yn ei wneud yn iawn. Mae’n gyfle i siarad am sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i atal cam-drin a chreu byd lle gall pob plentyn ac oedolyn deimlo, a bod yn ddiogel.

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru (EBC) yn aelod o’r Panel Diogelu Cydenwadol. Sefydlwyd y panel yn 2001. Mae’r Panel yn cefnogi cynulleidfaoedd o Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Undeb Annibynwyr Cymraeg ac Undeb Bedyddwyr Cymru, ym mhob agwedd ar arferion diogelu yn eu gwaith gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys gwaith polisi, hyfforddiant, cyngor a chymorth, gwaith achos a gwiriadau DBS.

Dywedodd Julie Edwards, Swyddog Diogelu y Panel Diogelu Cydenwadol,

 ‘Mae Dydd Sul Diogelu yn ffordd wych o hyrwyddo cymunedau eglwysig iach a diogel. Mae diogelu wrth gwrs yn cynnwys gwaith papur a phrosesau penodol ond mae creu diwylliant gofalgar ac iach, lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel ac yn hyderus y bydd unrhyw bryderon, ymddygiad amhriodol neu ddifrïol neu gamddefnyddio awdurdod yn cael eu herio, wrth wraidd creu eglwys fwy diogel’.

‘Rydym yn gofyn i bob eglwys sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed, benodi cydlynwyr Diogelu gwirfoddol, y mae eu rôl yn hollbwysig i wneud eu heglwys yn lle mwy diogel i bawb. Byddant yn sicrhau bod unrhyw un sydd angen gwneud gwiriad DBS wedi gwneud hyn a nhw fydd y pwynt cyswllt cyntaf os oes unrhyw bryderon diogelu lleol.’

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth am y Sul Diogelu ewch i https://panel.cymru/cy/sul-diogelu

Mae’r llun atodedig yn dangos Julie Edwards, Swyddog Diogelu y Panel Diogelu Cydenwadol

Am wybodaeth i’r cyfryngau a chyfweliadau, cysylltwch â Gethin Russell-Jones, swyddog y wasg, Eglwys Bresbyteraidd Cymru 07378 309268