Dyma stori Aled Davies
Gofalaeth Chwilog, Pencaenewydd, Llwyndyrys, Tyddynshon a Chapely Beirdd
Bu’r cyfnod o ganol Mawrth yn un lle gwelwyd pawb yn addasu, ac yn meddwl am ffyrdd newydd i gyrraedd ein haelodau eglwysig. Fel gofalaeth yma, (sef gofalaeth o 3 enwad a phum eglwys wahanol) pan ddaeth yr oedfaon i ben, dechreuwyd trwy baratoi myfyrdodau byr ar bapur a’i e-bostio neu bostio, tra ar yr un pryd yn tynnu sylw aelodau at eglwysi oedd yn darlledu ar y we, a’r oedfa ar S4C wrth gwrs. Rhan bwysig arall o’r gwaith oedd ffonio aelodau am sgwrs, gan geisio sicrhau cyswllt yn fisol, ac yn amlach efallai efo’r rhai yn byw ar eu pennau eu hunain.
Yna, dechreuwyd ar Zoom, gan gynnal cyfarfodydd wythnosol. Oedfa i ddechrau, ac er i mi fod yn reit amheus i ddechrau ynglŷn â fyddai pobl yn ymuno, erbyn y drydedd wythnos roedd dros 50 sgrin a dros 80 yn cyd-addoli. Gwnaed hynny yn ddi-dor ers hynny, ac rydym wedi penderfynu cario ymlaen dros fis Awst hefyd yn ddi-dor. Mae’n braf gweld y cynulliad yn ymgynnull ar fore Sul, a braf cael ambell un o eglwysi cyfagos yn gofyn am ymuno am eu bod yn colli cael oedfa fyw. Rydym hefyd wedi bod yn cynnal cyfarfodydd swyddogion dros Zoom er mwyn gofalu bod pawb yn iawn. I’r rhai hynny sy’n methu ymuno rydym yn argraffu gwasanaeth ardderchog Watcyn James o’r Goleuad, a’i danfon o dŷ i dŷ bob wythnos, ac ambell un yn mynd yn y post. Rydym hefyd wedi postio cerdyn Pasg a Pentecost i bob cartref, gan gynnwys myfyrdod pwrpasol. Yng nghyfnod wythnos Cymorth Cristnogol bu i Anna Jane ymuno yn ein hoedfa, a gwnaed casgliad ar lein gan gasglu £1200.
Gwnaed rhywbeth tebyg gyda’r Ysgol Sul hefyd, gan gynnal gwers ar lein dros Zoom a defnyddio’r pecyn gwers Ysgol Sul oddi ar y we sy’n cael ei baratoi yn wythnosol. Braf gweld 15-20 o blant bob wythnos yn ymuno.
Cyfarfod poblogaidd arall yw’r Gymdeithas. Erbyn hyn bydd tua 60 sgrin gennym a tua 90-100 o bobl yn ymuno. Ymhlith y siaradwyr cafwyd Y Parch Gwyn Elfyn a Rob Nicholls o Lundain, ein haelod seneddol lleol Liz Saville Roberts, Llywydd y Cynulliad Elin Jones a Llywydd y Gymanfa Gyffredinol, Y Parch Marcus Wyn Robinson. Cafwyd clywed hefyd ddwy o’n haelodau, Lois, sy’n byw yn Miami ac Esyllt sy’n byw ym Mhatagonia – a hwythau fel petaent yn yr ystafell ddrws nesa. Mae rhaglen lawn a ddifyr eto ar y ffordd dros yr wythnosau nesaf.
Fel arfer byddem fel eglwysi yn cynnal cyfarfod i ffarwelio gyda blwyddyn 6 cyn mynd am yr ysgol ym Mhwllheli. Eleni, gwnaed hynny mewn ffordd wahanol, gyda’r plant ar iard yr ysgol, a ninnau fel swyddogion a rhieni allan ar y ffordd tu allan, yn clapio, a chyflwyno’r Beiblau mewn bagiau plastic o bellter.
Diolch am bob cyfle, ac am barodrwydd aelodau i newid gyda’r oes. Y cam nesaf i ninnau yma yw gosod y we yn y capeli. Roedd gennym y we ym Mhencaenewydd yn barod, ond byddwn yn prysuro i’w roi yn yr adeiladau eraill hefyd.